Newyddion

Wythnos Genedlaethol Bywyd Gwaith 2025

Family walking with children

Wythnos Genedlaethol Bywyd Gwaith, sy’n cael ei chynnal er 2010, yw ymgyrch flynyddol Working Families i annog cyflogwyr a gweithwyr i siarad am les yn y gwaith a’r cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith. Gall cyflogwyr ddefnyddio’r wythnos i ddarparu gweithgareddau ar gyfer staff, ac i arddangos eu polisïau a’u harferion gweithio hyblyg.

Daw Wythnos Genedlaethol Bywyd Gwaith eleni ar adeg dyngedfennol o ran ein hystyriaeth o hyblygrwydd a chynhwysiant yn y gweithle. O dan y thema 'Flex for All', bydd ymgyrch 2025 yn tynnu sylw at y miliynau o bobl y mae gweithio hyblyg yn hanfodol iddynt, yn hytrach na bod yn rhywbeth 'braf i'w gael'. O Dadau i ofalwyr di-dâl, rhieni mabwysiadol, gofalwyr sy’n berthynas a'r rhai sy'n cefnogi aelodau hŷn o'r teulu, mae'r ymgyrch yn galw ar gyflogwyr i wneud hyblygrwydd yn ddiofyn i bawb sydd â chyfrifoldebau gofalu yn y gweithle. Trwy gyfrwng straeon bywyd go iawn, adnoddau ymarferol, a sgwrs genedlaethol, bydd Wythnos Genedlaethol Bywyd Gwaith 2025 yn hyrwyddo hyblygrwydd cynhwysol sy'n gweithio i bawb ac yn dangos sut y gall cyflogwyr a llunwyr polisïau arwain y ffordd.

Bydd Wythnos Genedlaethol Bywyd Gwaith 2025 yn cael ei chynnal rhwng 6 a 10 Hydref 2025.

I gael rhagor o wybodaeth ac i lawrlwytho Pecyn Cymorth 2025, dewiswch y ddolen ganlynol: National Work Life Week - Working Families

Gall cyflogwyr ddod o hyd i ragor o wybodaeth am weithio hyblyg drwy ddewis y dolenni isod:


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.