Wythnos y Ffoaduriaid yw gŵyl celfyddydau a diwylliant fwyaf y byd sy'n dathlu cyfraniadau, creadigrwydd a gwydnwch ffoaduriaid a phobl sy'n chwilio am noddfa.
Wedi'i sefydlu yn 1998 yn y DU, mae Wythnos y Ffoaduriaid yn cael ei chynnal bob blwyddyn tua’r un pryd â Diwrnod Ffoaduriaid y Byd (20 Mehefin) ac mae wedi tyfu i fod yn fudiad byd-eang.
Mae Wythnos y Ffoaduriaid wedi esblygu i fod yn fudiad rhyngwladol, gyda digwyddiadau dros y byd.
Bydd Wythnos Ffoaduriaid 2026 yn digwydd rhwng 15 a 21 Mehefin a’r thema fydd Dewrder.
Am ragor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen hon: About – Refugee Week.
Mae bod yn fusnes cyfrifol yn golygu bod o fudd i'r bobl a'r lleoedd o'ch cwmpas yn ogystal â chael effaith gadarnhaol ar eich busnes a gallwch wneud gwahaniaeth trwy gymryd rhan yn eich cymuned leol. Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: Busnes cyfrifol | Busnes Cymru (llyw.cymru).