Newyddion

Wythnos Ewch Ar-lein 2026

Volunteer teaching mature people how to use a digital device

Wythnos Ewch Ar-lein yw ymgyrch cynhwysiant digidol flynyddol y Good Things Foundation. Mae wedi cael ei gynnal bob blwyddyn ers 2007 ac mae'n ôl ar gyfer 2026 rhwng 19 a 25 Hydref.

Bob blwyddyn, mae cannoedd o sefydliadau yn cymryd rhan yn ymgyrch cynhwysiant digidol fwyaf y DU i gynnal digwyddiadau cymunedol rhad ac am ddim sy'n helpu pobl i fynd ar-lein yn ddiogel, yn hyderus ac yn fforddiadwy.

Ydych chi'n sefydliad cymunedol sy'n awyddus i gynnal digwyddiad? Allwch chi helpu i ledaenu'r neges? Sut bynnag rydych chi eisiau cymryd rhan, ymunwch â'r mudiad: Get Online Week | UK’s Largest Digital Inclusion Campaign | Good Things Foundation. 

Mae mwy a mwy o bobl yn gwneud pethau i gefnogi eu cymuned leol ac maen nhw eisiau gweld fod y busnesau y maen nhw’n ymwneud â nhw yn gwneud yr un fath. Mae yna sawl ffordd y gall busnes gyfrannu at eu hardal leol ac ar yr un pryd gadw eu cwsmeriaid yn hapus: Gweithio gyda’ch cymuned leol | Busnes Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.