Newyddion

Wythnos Elusennau Bach 2025

Hand holding a jar of coins and a red heart shape

Mae elusen fach yn sefydliad gwirfoddol sydd â phwrpas cymdeithasol neu elusennol gydag incwm blynyddol o lai na £1 miliwn. Mae hyn yn cynnwys elusennau cofrestredig, grwpiau cymunedol, cwmnïau buddiannau cymunedol (CICs) a strwythurau eraill.

Mae Wythnos Elusennau Bach, sy'n cael ei chynnal rhwng 23 a 28 Mehefin 2025, yn ymgyrch sy'n hybu a chefnogi gwaith anhygoel elusennau bach ledled y DU.

Trwy gydol yr wythnos mae hyfforddiant a digwyddiadau yn cael eu cynnal ar gyfer elusennau bach a sgyrsiau cenedlaethol yn digwydd am rôl hanfodol elusennau bach wrth gryfhau cymunedau drwy’r DU.​

Am ragor o wybodaeth, cliciwch y ddolen hon: Wythnos Elusennau Bach

Mae mwy a mwy o bobl yn gwneud pethau i gefnogi eu cymuned leol, ac maen nhw eisiau gweld bod y busnesau maen nhw'n delio â nhw yn cymryd rhan ac yn gwneud yr un peth hefyd.

Mae yna lawer o ffyrdd y gall busnes gyfrannu at eu hardal leol, a chadw eu cwsmeriaid yn hapus ar yr un pryd. Am ragor o wybodaeth, cliciwch y ddolen hon: Gweithio gyda'ch cymuned leol | Busnes Cymru (llyw.cymru)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.