Newyddion

Wythnos Dysgu yn y Gwaith 2026

person at work looking at a laptop

Cynhelir Wythnos Dysgu yn y Gwaith rhwng 18 a 24 Mai 2026.

Mae Wythnos Dysgu yn y Gwaith yn ddigwyddiad blynyddol unigryw i greu diwylliannau dysgu yn y gwaith. Ei nod yw tynnu sylw at bwysigrwydd a manteision dysgu a datblygiad parhaus a thema eleni yw ‘Sawl ffordd o ddysgu’, cymerwch olwg ar dudalen thema 2026 i ddysgu mwy.

Mae'r thema'n archwilio'r gwahanol ffyrdd y gallwn ddysgu a meithrin sgiliau wrth fynd, a sut y gallwn greu cyfleoedd cynhwysol ar gyfer dysgu gydol oes sy'n fuddiol i fywydau personol, proffesiynol a gwaith.

Mae'r rhan fwyaf o gyflogwyr yn cynnal Wythnos Dysgu yn y Gwaith yn ystod y dyddiadau cenedlaethol. Fodd bynnag, os oes amser gwell i'ch sefydliad a'i weithwyr, gallwch ddefnyddio'r adnoddau rhad ac am ddim i gynnal yr wythnos ar ddyddiadau gwahanol. Y peth pwysicaf yw bod Wythnos Dysgu yn y Gwaith wedi'i llunio i weithio i'ch sefydliad chi, gan gynnwys pryd mae’n cael ei chynnal.

Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: Wythnos Dysgu yn y Gwaith.

Edrychwch ar dudalennau Recriwtio a Hyfforddi Busnes Cymru am gymorth ac arweiniad i ganfod bylchau sgiliau a meysydd datblygu ar gyfer eich busnes.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.