Newyddion

Wythnos Deallusrwydd Artiffisial 2025

robot hand and human hand

Mae cofrestru bellach ar agor ar gyfer AI Week 2025, gŵyl dysgu ar-lein, 10 diwrnod am ddeallusrwydd artiffisial y DU.

O 13-24 Hydref 2025, bydd Arweinwyr Digidol yn cynnal yr 8fed ŵyl ar-lein fwyaf o ddysgu am ddeallusrwydd artiffisial yn y DU. Yn ystod y 10 diwrnod, byddwch yn elwa ar mewnwelediadau ymarferol a phersbectifau newydd gan 240 siaradwr arbenigol o fyd busnes, llywodraeth, academaidd, ac o’r sector elusennol.

Pam ddylid mynychu? 

  • datblygu hyder gyda deallusrwydd artiffisial – pa bynnag eich sector
  • dysgu gan arweinwyr busnes, llywodraeth ac elusennau
  • archwilio profiadau go-iawn a strategaethau profedig
  • cysylltu â chymuned genedlaethol o weithwyr proffesiynol

Gyda 200+ o drafodaethau i ymuno yn fyw ynddynt am ddim neu eu gwylio ar alwad, mae wythnos deallusrwydd artiffisial yn gyfle i chi archwilio sut mae deallusrwydd artiffisial yn trawsnewid y ffordd rydym yn gweithio, yn dysgu, ac yn arwain – caiff ei gynnig mewn ffordd hygyrch, ysbrydoledig, ac yn rhad ac am ddim. 

Am ragor o wybodaeth ac i archebu eich lle ewch i: AI Week 2025

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.