Cynhelir Wythnos Dathlu Niwroamrywiaeth eleni rhwng 16 a 20 Mawrth 2026.
Mae Wythnos Dathlu Niwroamrywiaeth yn fenter fyd-eang sy'n herio stereoteipiau a chamsyniadau am wahaniaethau niwrolegol. Ei nod yw trawsnewid sut mae unigolion niwrowahanol yn cael eu hystyried a'u cefnogi trwy roi’r cyfle i ysgolion, prifysgolion, sefydliadau, ac eraill ledled y byd gydnabod sgiliau a doniau niferus unigolion niwrowahanol, wrth greu diwylliannau mwy cynhwysol a theg sy'n dathlu gwahaniaethau ac yn grymuso pob unigolyn.
Am ragor o wybodaeth dilynwch y dolenni canlynol:
Mae gan Acas ganllawiau ar niwroamrywiaeth er mwyn helpu cyflogwyr i greu sefydliadau cynhwysol a chodi ymwybyddiaeth yn y gwaith. Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: Understanding neurodiversity - Neurodiversity at work - Acas.