Newyddion

Wythnos Cyllid Busnes 2024

Male cafe owner, leaning on serving counter

Bydd Banc Busnes Prydain unwaith eto yn gweithio ochr yn ochr â sawl partner ledled y DU i gynnal Wythnos Cyllid Busnes 2024 rhwng 24 Medi a 3 Hydref.

Gydag amrywiaeth o ddigwyddiadau wyneb yn wyneb, gweminarau a mwy, yn genedlaethol ac yn rhanbarthol, mae Wythnos Cyllid Busnes yn helpu busnesau llai i ddysgu am y gwahanol opsiynau cyllid sydd ar gael i ddiwallu eu hanghenion unigol.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Business Finance Week | British Business Bank (british-business-bank.co.uk)

Ydych chi'n chwilio am gyllid ar gyfer eich busnes? Gall gweithio allan ble i fynd i ddod o hyd i gyllid a dewis y math cywir fod yn anodd. Mae ein hadran gyllid ar ein gwefan yma i’ch helpu: Canfod Cyllid | Busnes Cymru (llyw.cymru)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.