Mae Wythnos Bwydo ar y Fron y Byd, rhwng 1 a 7 Awst, yn ymgyrch fyd-eang i godi ymwybyddiaeth a hyrwyddo gweithredu ar themâu sy’n ymwneud â bwydo ar y fron.
I gyflogwyr, mae’r wythnos yn rhoi cyfle i hyrwyddo ymwybyddiaeth o fwydo ar y fron yn y gweithle, rhannu adnoddau defnyddiol gyda gweithwyr ac annog sgyrsiau am fwydo ar y fron yn y gwaith.
Am ragor o wybodaeth, cliciwch y ddolen hon: Wythnos Bwydo ar y Fron y Byd - Cymru Iach ar Waith.