Newyddion

Wythnos Atal Gwastraff Bwyd 2025

someone picking potatoes at a supermarket

Eleni, bydd ymgyrch lleihau gwastraff bwyd blynyddol mwyaf y DU yn cael ei gynnal rhwng 17 a 23 Mawrth 2025.

Wythnos Atal Gwastraff Bwyd yw ymgyrch blynyddol blaenllaw Love Food Hate Waste, sy'n dod â busnesau, sefydliadau llywodraeth a phartneriaid byd-eang ynghyd i gefnogi dinasyddion i ddatblygu'r hyn sydd ei angen arnynt i leihau gwastraff bwyd yn eu cartrefi.

Mae eu hymgyrch yn syml - maen nhw eisiau cael mwy a mwy o bobl ar draws y DU i siarad am pam mae prynu ffrwythau a llysiau rhydd yn well.  

Pam? Oherwydd bod eu hymchwil yn dangos bod gwerthu eitemau yn rhydd (heb eu pecynnu), fel mai dim ond yr hyn sydd ei angen arnynt y mae pobl yn ei brynu, yn ffordd effeithiol o leihau gwastraff bwyd yn y cartref.  

"Pe bai’r holl afalau, bananas a thatws yn cael eu gwerthu yn rhydd, gallai 60,000 tunnell o wastraff bwyd gael ei arbed bob blwyddyn."  

I raddau helaeth, mae Wythnos Atal Gwastraff Bwyd yn llwyddo yn sgil y cymorth gan bartneriaid ymroddedig – manwerthwyr, gweithgynhyrchwyr, llywodraethau, awdurdodau lleol, cyrff anllywodraethol a sefydliadau cymunedol – i gyd yn gweithio gyda'i gilydd, gyda'r nod o leihau gwastraff bwyd yn y cartref.  

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch y ddolen ganlynol: Food Waste Action Week | WRAP

Yng Nghymru, mae'r rhan fwyaf o wastraff bwyd wedi'i ailgylchu yn cael ei droi'n ynni adnewyddadwy sy'n pweru cartrefi a chymunedau Cymru. Mae’n beth pwerus iawn, yn tydi? A gallwch chi ein helpu i'w wneud hyd yn oed yn fwy pwerus. Daliwch ati i ddarllen am awgrymiadau, ffeithiau a straeon pwerus: Troi gwastraff bwyd yn bŵer i Gymru | Cymru’n Ailgylchu | Ble a Sut i Ailgylchu

Mae Canllawiau y Busnes o Ailgylchu Cymru ar gyfer pob gweithle yn darparu canllawiau penodol i'r sector i'ch helpu i wella eich dulliau casglu gwastraff presennol a sicrhau bod eich gweithle yn cydymffurfio'n llawn â'r rheoliadau newydd.  Mae'n orfodol i fusnesau drefnu bod y deunyddiau hyn yn cael eu casglu ar wahân


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.