Newyddion

Wythnos Ailgylchu 2026

recycling

Wythnos Ailgylchu yw ymgyrch flaenllaw flynyddol Recycle Now.

Mae manwerthwyr, brandiau, cwmnïau rheoli gwastraff, cymdeithasau masnach, llywodraethau a’r cyfryngau yn dod at ei gilydd i gyflawni un nod: helpu pawb i ailgylchu mwy o’r pethau cywir, yn amlach.

Mae Wythnos Ailgylchu yn cael ei chynnal rhwng 14 Medi a 20 Medi 2026, eleni mae'r ymgyrch yn annog pawb i achub eu deunyddiau ailgylchadwy o'r bin, ac yn dangos beth sy'n digwydd pan fydd deunyddiau ailgylchadwy yn cael eu hachub.

Am fwy o wybodaeth dilynwch y dolenni canlynol:

Cofrestrwch ar gyfer yr Addewid Twf Gwyrdd, ac ymrwymwch i gamau cadarnhaol a fydd yn helpu eich busnes i leihau ei ôl troed carbon a'i effaith ar yr amgylchedd wrth sicrhau perfformiad cynaliadwy.

 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.