
Bydd Wythnos Agor Eich Llygaid yn cael ei chynnal yr wythnos sy'n dechrau ar 17 Tachwedd 2025.
Mae'r digwyddiad rhithwir hwn ledled y ddinas, sy'n cael ei gynnal gan Addewid Caerdydd, yn cysylltu disgyblion Blwyddyn 5 a Blwyddyn 6 â'r byd gwaith amrywiol, gan sbarduno eu dyheadau a'u huchelgeisiau yn y dyfodol.
Anogir cyflogwyr o bob sector i gofrestru eu diddordeb mewn cymryd rhan yn yr wythnos rithwir hon.
Mae manteision Wythnos Agor Eich Llygaid wedi'u rhestru isod:
- Yn rhoi dealltwriaeth ddatblygedig i ddisgyblion o'r cysylltiad rhwng addysg, gwaith a ffordd o fyw.
- Yn cynyddu ymwybyddiaeth disgyblion, ysgolion a rhieni/gofalwyr o yrfaoedd a sgiliau rhanbarthol ac yn datblygu canfyddiad disgyblion o'u lle posibl hwy eu hunain ym myd gwaith.
- Herio rhwystrau sy'n gysylltiedig â chydraddoldeb, cynhwysiant ac amrywiaeth yn ogystal â herio symudedd cymdeithasol.
- Mae’r hyn sy’n cael ei ddysgu yn cael cyd-destun go iawn, i sicrhau bod y ffordd mae’n cael ei gyflwyno yn ystyrlon ac yn gysylltiedig â Chwricwlwm Cymru.
Y llynedd dywedodd 82% o ddisgyblion eu bod wedi dysgu rhywbeth newydd (sy’n ganran ryfeddol), ac roedd 72% yn meddwl bod y cwmnïau'n lleoedd ysbrydoledig i weithio ynddynt.
Gwyliwch y fideo YouTube Open Your Eyes Week Montage i ddarganfod mwy a darllenwch yr Adroddiadau Effaith o flynyddoedd blaenorol.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am Wythnos Agor Eich Llygaid, cysylltwch â victoria.poole@cardiff.gov.uk
Edrychwch ar dudalennau Recriwtio a Hyfforddi Busnes Cymru am gymorth ac arweiniad i ganfod bylchau sgiliau a meysydd datblygu ar gyfer eich busnes.