
Mae’r Gronfa Arloesi ar gael ar gyfer darparwyr addysg oedolion yng Nghymru sy’n dymuno cyflwyno gweithgareddau yn y gymuned, digwyddiadau hyrwyddo neu sesiynau blasu ar-lein ar gyfer wythnos yr ymgyrch a thrwy gydol mis Medi 2025.
Mae’r Wythnos Addysg Oedolion yn ymgyrch flynyddol sy’n dathlu a hyrwyddo cyfleoedd dysgu i bawb. Bydd yr wythnos ffocws rhwng 15 i 21 Medi 2025, gyda gweithgaredd hyrwyddo drwy gydol y mis:
- Dydd Llun 15 Medi: Lleisiau Dysgwyr
- Dydd Mawrth 16 Medi: Cydweithio a Chysylltu
- Dydd Mercher 17 Medi: Sgiliau ar gyfer Gwaith a Dilyniant
- Dydd Iau 18 Medi: Sgiliau Hanfodol
- Dydd Gwener 19 Medi: Iechyd a Hyder
Nod yr ymgyrch yw cysylltu pobl gydag ystod eang o gyfleoedd dysgu, arddangos manteision addysg oedolion a dathlu llwyddiannau pobl, prosiectau a sefydliadau yng Nghymru.
Mae grantiau o hyd at £750 ar gael i sefydliadau sy’n gweithio yng Nghymru sy’n cyflwyno dysgu gydol oes. Nod y gronfa grantiau yw cefnogi creu sesiynau blasu byr, digwyddiadau dysgu, gweithgaredd yn y gymuned, dosbarthiadau meistr, llais dysgwyr neu ddysgu fel teulu am ddim, ac i ddatblygu cynnwys y gellir ei addasu i amgylchedd ar-lein. Gallech hefyd fod â diddordeb mewn cyflwyno dyddiau agored ar-lein/wyneb i wyneb.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Gwener 25 Gorffennaf 2025.
Am ragor o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol: Cronfa Arloesi - Learning and Work Institute