Newyddion

Wythnos Addysg Oedolion – Diwrnod Sgiliau Gwaith 2026

Wythnos Addysg Oedolion – Diwrnod Sgiliau Gwaith 2026

Cynhelir ymgyrch Wythnos Addysg Oedolion eleni rhwng 21 i 27 Medi 2026 gyda gweithgaredd hyrwyddo drwy gydol y mis.

Caiff yr ymgyrch flynyddol ei threfnu gan Dysgu a Gwaith mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru ac mae’n gyfle arbennig i bobl fanteisio ar gyfleoedd newydd i ddysgu, ceisio cysylltiadau a gwybodaeth newydd ac arddangos effaith rymus dysgu gydol oes ar unigolion, prosiectau a sefydliadau yng Nghymru.

Mae’r Diwrnod Sgiliau Gwaith (23 Medi 2026) yn un o bum diwrnod thema wythnos yr ymgyrch, gan roi sylw i bwysigrwydd datblygu’r sgiliau, gwybodaeth a hyder mae pobl eu hangen i ffynnu mewn gwaith a sicrhau cynnydd yn eu gyrfaoedd.

Mae cymryd rhan yn y Diwrnod Sgiliau Gwaith yn ffordd syml i gyflogwyr ddangos eu hymroddiad i ddatblygu pobl ac adeiladu diwylliant dysgu cryfach yn y gweithle. P’un ai ydych yn cynnal sesiwn flasu, arddangos yr hyfforddiant presennol, dathlu llwyddiannau staff neu gychwyn sgwrs am sgiliau’r dyfodol, drwy gymryd rhan gallwch ysbrydoli mwy o bobl i gymryd eu cam nesaf mewn dysgu. Os na fedrwch gydlynu gweithgareddau ar gyfer 23 Medi, rydym yn eich annog i gynllunio eich gweithgareddau ar unrhyw adeg yn ystod yr wythnos ffocws neu unrhyw bryd ym mis Medi.

Ffyrdd syml i gymryd rhan – nidoes angen cymwysterau ffurfiol neu ymrwymiad enfawr o ran amser ar gyfer dysgu gweithle. Gellir ei gynnwys yn yr wythnos waith drwy weithgareddau syml, tebyg i:

  • Ciniawau dysguSesiynau anffurfiol lle mae staff yn rhannu sgiliau neu wybodaeth.
  • Sesiynau blasuGweithdai byr yn cyflwyno pwnc neu declyn newydd.
  • Trafodaethau tîm: Ymarferion creadigol i adeiladu tîm er mwyn meithrin hyder ac ysgogi chwilfrydedd
  • Siaradwyr gwadd: Gwahodd siaradwr i rannu gwybodaeth ar bwnc perthnasol.
  • Dathlu staff: Rhannu straeon llwyddiant a theithiau dysgu staff

Llenwch ffurflen gofrestru os gwelwch yn dda os oes gan eich sefydliad ddiddordeb mewn cymryd rhan.  

Mae mwy o wybodaeth a syniadau ar sut i gymryd rhan ac adnoddau i gefnogi eich gweithgareddau ar gael yn y Pecyn Ymgyrch.

I gael rhagor o wybodaeth ac i gadw eich lle, dewiswch y ddolen ganlynol: Wythnos Addysg Oedolion - Sefydliad Dysgu a Gwaith.

Cymorth a chanllawiau i adnabod bylchau sgiliau a datblygiad ar gyfer eich busnes: Recriwtio a Hyfforddi | Busnes Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.