
Wedi'i chydlynu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru, Wythnos Addysg Oedolion yn ystod 15 i 21 Medi 2025.
Thrwy gydol mis Medi gallwch gymryd rhan mewn cyrsiau, digwyddiadau a sesiynau blasu ar-lein ac wyneb yn wyneb yn rhad ac am ddim.
Mae llawer o feysydd pwnc i’w harchwilio megis sgiliau digidol, celf a chrefft, iechyd a lles, rhifedd a llythrennedd, sgiliau bywyd a swyddi, yr amgylchedd, ieithoedd, gwyddorau cymdeithasol a llawer mwy!
P’un a ydych chi am fagu eich hyder, gwella eich lles, rhoi cynnig ar hobi newydd, symud ymlaen yn y gwaith, chwilio am wybodaeth arbenigol am yrfaoedd a chyllid, neu ddatblygu eich sgiliau i gael swydd newydd, mae rhywbeth at ddant pawb.
Mae Dysgu a Gwaith yn gwahodd sefydliadau ar draws Cymru i ymuno â’u rhwydwaith o bartneriaid i gynllunio a chofrestru eu gweithgareddau, a gaiff eu hyrwyddo fel rhan o ymgyrch amlgyfrwng ledled Cymru. Gall sefydliadau sy’n newydd i’r ymgyrch gofrestru eu diddordeb.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Wythnos Addysg Oedolion - Learning and Work Institute
Cymorth a chanllawiau i adnabod bylchau sgiliau a datblygiad ar gyfer eich busnes Recriwtio a Hyfforddi | Busnes Cymru