Mae’r Wythnos Addysg Oedolion yn ymgyrch flynyddol sy’n dathlu a hyrwyddo cyfleoedd dysgu i bawb. Bydd yr wythnos ffocws rhwng 21 i 27 Medi 2026, gyda gweithgaredd hyrwyddo drwy gydol y mis
Nod yr ymgyrch yw cysylltu pobl gydag ystod eang o gyfleoedd dysgu, arddangos manteision addysg oedolion a dathlu llwyddiannau pobl, prosiectau a sefydliadau yng Nghymru: Wythnos Addysg Oedolion.
Mae’r Gronfa Arloesi ar gael ar gyfer darparwyr addysg oedolion yng Nghymru sy’n dymuno cyflwyno gweithgareddau yn y gymuned, digwyddiadau hyrwyddo neu sesiynau blasu ar-lein ar gyfer wythnos yr ymgyrch a thrwy gydol mis Medi 2026.
Mae grantiau o hyd at £750 ar gael i sefydliadau sy’n gweithio yng Nghymru sy’n cyflwyno dysgu gydol oes. Nod y gronfa grantiau yw cefnogi creu sesiynau blasu byr, digwyddiadau dysgu, gweithgaredd yn y gymuned, dosbarthiadau meistr, llais dysgwyr neu ddysgu fel teulu am ddim, ac i ddatblygu cynnwys y gellir ei addasu i amgylchedd ar-lein.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Gwener 3 Gorffennaf 2026. Am ragor o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol: Wythnos Addysg Oedolion .
Cymorth a chanllawiau i adnabod bylchau sgiliau a datblygiad ar gyfer eich busnes: Recriwtio a Hyfforddi | Busnes Cymru.