Newyddion

Varsity Pitch 2020

Mae Cystadleuaeth Varsity Pitch, wedi’i chefnogi gan NACUE, yn gystadleuaeth genedlaethol, flynyddol ar gyfer cynigion busnes cam cynnar ac mae’n dathlu’r busnesau gorau sy’n dod o golegau a phrifysgolion ledled y DU.  

Mae tri cham i’r gystadleuaeth, sy’n gyfle ardderchog i fusnesau cam cynnar ddod i gysylltiad â busnesau rhyngwladol, cael adborth credadwy gan arbenigwyr yn y diwydiant, cael cymorth busnes a chyfle i gystadlu ar gyfer y wobr ariannol uwch o £15,000 o gyllid di-ecwiti a theitl cenedlaethol.   

Y dyddiad cau i gyflwyno cais yw dydd Gwener 24 Gorffennaf 2020.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan NACUE


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.