Mae miloedd o bobl ledled Cymru yn colli allan ar gymorth ariannol y mae ganddyn nhw’r hawl iddo, a gallai un galwad ffôn newid hynny.
Mae tua £1 biliwn o fudd-daliadau yn mynd heb eu hawlio yng Nghymru bob blwyddyn, ac mae ymgyrch Llywodraeth Cymru 'Hawlia dy Arian', yn annog pobl i edrych beth gallen nhw ei hawlio, gyda chefnogaeth gyfrinachol am ddim gan Advicelink Cymru.
Ers 2020, mae mwy na £10.5 miliwn wedi cael ei roi yn ôl i bobl ledled Cymru diolch i ymgyrchoedd y gaeafau diwethaf, gan gynnwys budd-daliadau Cymru a'r DU, pensiynau, cymorth gyda chostau gofal a gostyngiadau yn nhreth y cyngor. Gallai hyd yn oed pobl sydd eisoes yn derbyn budd-daliadau fod yn gymwys i gael mwy. Ar gyfartaledd, gallai hawlwyr cymwys gael tua £1,800 trwy Gredyd Pensiwn neu arbed £800 y flwyddyn ar dreth y cyngor.
Ffoniwch Advicelink Cymru ar 0800 702 2020 neu ewch i Gwasanaeth hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi | LLYW.CYMRU.
Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: Un galwad i gael arian yn ôl yn eich poced | LLYW.CYMRU.
Rydym yn gwybod bod costau cynyddol yn her fawr i fusnesau ledled Cymru ar hyn o bryd. Dyna pam rydyn ni'n gweithio gyda'n partneriaid i ddod â'r adnoddau a'r gefnogaeth ymarferol sydd eu hangen i addasu a llywio cost gynyddol gwneud busnes – i gyd mewn un lle: Cost Gwneud Busnes | Busnes Cymru.