Newyddion

Uchelgais newydd ar gyfer cynhwysiant a chyfranogiad pobl anabl yng Nghymru

Wheelchair user, working from home using a laptop

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad ar ei Chynllun Hawliau Pobl Anabl, sy'n nodi uchelgais gadarnhaol ar gyfer hyrwyddo hawliau a chyfleoedd pob person anabl ledled Cymru dros y degawd nesaf.

Mae'r ddogfen ymgynghori, sy'n seiliedig ar y Model Cymdeithasol o Anabledd ac wedi'i llywio gan egwyddorion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl, yn amlinellu camau gweithredu uniongyrchol a chanlyniadau hirdymor i greu newid parhaol yn y ffordd y mae cymdeithas yn mynd i'r afael â rhwystrau i gynhwysiant.

Mae'r cynllun yn seiliedig ar waith y Tasglu Hawliau Pobl Anabl, a wnaeth ddwyn ynghyd pobl â phrofiad bywyd ac arbenigedd. Mae'n mynd i'r afael â'r heriau gwirioneddol sy'n wynebu pobl anabl yn eu bywydau bob dydd, gyda gweithgorau thematig yn canolbwyntio ar feysydd penodol.

Yn dilyn yr ymgynghoriad, bydd Bwrdd Cynghori Allanol yn darparu arbenigedd a goruchwyliaeth barhaus wrth i'r cynllun gael ei weithredu.

Mae'r ymgynghoriad 12 wythnos hwn yn croesawu mewnbwn gan unigolion, grwpiau cymunedol, busnesau a sefydliadau, gyda phwyslais arbennig ar glywed yn uniongyrchol gan bobl anabl am eu blaenoriaethau.

Mae'r ymgynghoriad ar agor tan 7 Awst 2025.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Uchelgais newydd ar gyfer cynhwysiant a chyfranogiad pobl anabl yng Nghymru | LLYW.CYMRU


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.