
Mae'r cyfnod gwirfoddol ar gyfer dilysu hunaniaeth wedi agor. Bydd angen i fwy na 6 miliwn o unigolion gydymffurfio yn y 12 mis ar ôl i ddilysu hunaniaeth ddod yn ofyniad cyfreithiol yn ddiweddarach eleni.
Y gwasanaeth newydd sy'n caniatáu i unigolion ddilysu eu hunaniaeth yn uniongyrchol gyda Thŷ'r Cwmnïau trwy GOV.UK One Login. Gall pobl hefyd ddilysu eu hunaniaeth trwy Ddarparwr Gwasanaeth Corfforaethol Awdurdodedig (DGCA).
Mae cyflwyno dilysu hunaniaeth yn un o'r newidiadau allweddol i gyfraith cwmnïau y DU o dan Ddeddf Troseddau Economaidd a Thryloywder Corfforaethol 2023. Rhoddodd y ddeddfwriaeth nodedig hon bwerau newydd a gwell i Dŷ'r Cwmnïau helpu i amharu ar droseddu economaidd a chefnogi twf economaidd.
Bydd dilysu hunaniaeth yn rhoi mwy o sicrwydd ynghylch pwy sy'n sefydlu, rhedeg, bod yn berchen ar, a rheoli cwmnïau yn y DU. Bydd yr un lefel o sicrwydd p'un a yw unigolion yn dilysu eu hunaniaeth yn uniongyrchol gyda Thŷ'r Cwmnïau neu drwy DGCA.
Am ragor o wybodaeth dewiswch y dolenni canlynol: Companies House starts to verify identities - GOV.UK ac Identity verification at Companies House - GOV.UK