
Gan ddechrau ar 18 Tachwedd 2025, bydd yn ofynnol yn ôl y gyfraith i bob cyfarwyddwr cwmni a phobl â rheolaeth sylweddol (PSC) wirio eu hunaniaeth o dan Ddeddf Troseddau Economaidd a Thryloywder Corfforaethol 2023.
Mae pryd y bydd arnoch angen gwirio eich hunaniaeth yn dibynnu ar eich swydd a phryd y gwnaethoch chi ddechrau'r swydd honno:
- Cyfarwyddwyr – Bydd angen ichi roi eich cod personol Tŷ'r Cwmnïau fel rhan o ddatganiad cadarnhau nesaf eich cwmni o 18 Tachwedd 2025.
- Pobl â rheolaeth sylweddol (PSC) – Rhaid i bobl â rheolaeth sylweddol wirio eu hunaniaeth a rhoi eu cod personol Tŷ’r Cwmnïau.
Bydd pryd y dylech wneud hyn yn dibynnu ar eich sefyllfa.
Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen hon: Pryd mae angen i chi wirio eich hunaniaeth ar gyfer Tŷ'r Cwmnïau - GOV.UK