Newyddion

Twf ac adfywio rhanbarthol i'w sbarduno gan arian ychwanegol i brosiectau diwylliannol allweddol Cymru

cultural funding news item pic

Mi fydd adfywio twf rhanbarthol yn cael yr hwb y mae wirioneddol ei angen, gyda dau brosiect diwylliannol mawr yng Nghymru yn derbyn £15 miliwn o gyllid i helpu i hybu twf a sbarduno adfywio ar lefel ranbarthol.  

Bydd cyllid yn ‘allweddol’ i arddangos y DU fel un o wledydd blaenllaw y byd o ran diwylliant, gan ddenu ymwelwyr o bedwar ban byd.  

Yn bwysig iawn, bydd hyn yn helpu i hybu twf ym mhob rhan o’r wlad – elfen allweddol o Gynllun ar gyfer Newid llywodraeth y DU – trwy greu swyddi, ac mewn rhai achosion, adeiladu cartrefi newydd.

Mae’r prosiectau yng Nghymru a fydd yn derbyn cyllid yn cynnwys:
•    £10 miliwn ar gyfer Venue Cymru yng Nghonwy, Cymru – i wella’r ganolfan gelfyddydau mwyaf yng Nghymru y tu allan i Gaerdydd, a sicrhau newid sylweddol yn y ffordd mae’r adeilad yn cael ei ddefnyddio, gan gynnwys ystryried adleoli’r llyfrgell bresennol a’r Ganolfan Wybodaeth i Ymwelwyr i greu canolfan ddiwylliannol modern ac arloesol.
•    £5 miliwn ar gyfer Pont Gludo Casnewydd, Cymru, a fydd yn ariannu gwaith atgyweirio a gwaith cynnal a chadw hollbwysig i Bont Gludo Casnewydd, sy’n chwarae rôl hanfodol yn yr economi twristiaeth fel atyniad i ymwelwyr yn Ne Cymru.

Bydd y prosiectau hyn yn dathlu ac yn codi ymwybyddiaeth o werth cymdeithasol a hanes diwylliannol unigryw Cymru. Ar yr un pryd, bydd yn cefnogi twf economaidd trwy greu swyddi lleol a denu twristiaid ar raddfa genedlaethol.   

Rydym wedi blaenoriaethu’r prosiectau mwyaf datblygedig, a fydd yn gweld y buddion yn mynd tu hwnt i ffiniau rhanbarthol ac yn denu buddsoddiadau, er mwyn gwneud y gorau o wariant cyhoeddus a sicrhau twf hirdymor.

I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Twf ac adfywio rhanbarthol i'w sbarduno gan arian ychwanegol i brosiectau diwylliannol allweddol Cymru - GOV.UK

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.