Os ydych chi'n defnyddio, yn chwarae neu’n perfformio cerddoriaeth yn eich busnes neu sefydliad, mae'n debygol y bydd angen trwydded gerddoriaeth arnoch.
Yn flaenorol, roedd yn rhaid i fusnesau a sefydliadau gael trwyddedau cerddoriaeth ar wahân gan PPL (Phonographic Performance Limited) a PRS (Performing Rights Society) ar gyfer cerddoriaeth. Fodd bynnag, mae PPL a PRS bellach wedi dod at ei gilydd i ffurfio PPL PRS Ltd a lansio TheMusicLicence.
O dan Ddeddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988, mae angen caniatâd gan y deiliaid hawlfraint perthnasol – y bobl hynny sy'n creu cerddoriaeth – er mwyn chwarae neu berfformio cerddoriaeth yn gyhoeddus.
Mae cael TheMusicLicence yn rhoi'r caniatâd hwn i chi, mewn perthynas â'r mwyafrif helaeth o gerddoriaeth sydd ar gael yn fasnachol. Mae hyn yn amrywio o artistiaid a chyfansoddwyr ar lawr gwlad ac annibynnol hyd at yr enwau mwyaf yn y busnes.
Mae TheMusicLicence yn caniatáu ichi chwarae cerddoriaeth yn gyfreithlon ar gyfer gweithwyr neu gwsmeriaid yn eich busnes trwy'r radio, teledu, dyfeisiau digidol eraill a pherfformiadau byw.
Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: PPL PRS | TheMusicLicence | The UK's public music licensing company.