Gan Ryan Harris, un o Bartneriaid Aur y Rhaglen Cyflymu Twf
Mae offer AI yn newid sut mae cwsmeriaid yn darganfod gwasanaethau ar-lein. Deallwch y newid o chwiliad traddodiadol i grynodebau AI a darganfyddwch y camau ymarferol i ddiogelu eich gwelededd a denu darpar gleientiaid o ansawdd uwch.
Esblygiad chwiliadau
Bob tro mae technoleg chwilio'n datblygu, honna’r penawdau'n fod SEO traddodiadol wedi marw. Gwelwyd hyn gyda'r newid i bori ar ffonau symudol, twf chwiliadau â llais ac ymddangosiad gofynion cyflymder newydd safleoedd. Ond nid diflannu a wna SEO; ond esblygu yn hytrach.
Bellach mae chwiliotwyr yn defnyddio AI i lunio crynodebau ac atebion uniongyrchol i ddefnyddwyr. Ond nid yw offer AI yn disodli gwefannau; maen nhw'n ddibynnol arnyn nhw. I lwyddo, yn y bôn, mae angen i'ch busnes chi addasu ei strategaeth ddigidol i sicrhau bod systemau AI yn dewis eich cynnwys chi fel y ffynhonnell fwyaf dibynadwy.
Cyfnewid maint traffig am werth traffig
Os ydych chi'n monitro’r dadansoddi ar eich gwefan, efallai y sylwch chi ar duedd newydd: mae eich cynnwys yn ymddangos yn y canlyniadau chwilio yn amlach, ond mae llai o bobl yn mynd ymlaen i glicio arno.
Peidiwch â chynhyrfu. Erbyn hyn mae crynodebau AI yn ateb cwestiynau syml cwsmeriaid yn syth ar y dudalen chwilio, gan hidlo poriadau isel o ran bwriadau. Mae'r cwsmeriaid sy'n mynd ymlaen i glicio drwodd ar eich gwefan yn uchel eu cymwysterau, â diddordeb gweithredol ac yn barod i brynu. Rydych chi'n cyfnewid llwyth traffig diwahân am ddarpar gleientiaid gwerth uwch.
Sut yr â AI ati i ddewis ei atebion
Er mwyn i'ch busnes gael ei gynnwys mewn crynodebau AI, mae angen i chi ddeall sut mae'r systemau hyn yn canfod gwybodaeth. Mae chwiliad AI modern yn defnyddio proses o'r enw Cynhyrchu a Ychwanegir gan Adalw (RAG): yn y bôn, mae AI yn pori'r rhyngrwyd fyw i ddod o hyd i'r ateb cywir, mwyaf cyfredol cyn ei gyflwyno i'r defnyddiwr.
Eich nod chi yw gwneud eich gwefan chi’n ffynhonnell glir, strwythuredig y bydd AI yn troi ati'n gyntaf. Bellach fformatio glân, penawdau rhesymegol a gwybodaeth gywir bellach yw’r pris mynediad sylfaenol.
Estyn eich ôl troed digidol a'ch awdurdod
Nid darllen eich gwefan yn unig a wna AI; mae'n gwerthuso eich presenoldeb digidol cyfan i benderfynu a ydych chi’n fusnes dibynadwy.
Gwellwch eich P-A-A-D: Mae systemau AI yn ffafrio ffynonellau sy’n dangos Profiad, Arbenigedd, Awdurdod a Dibynadwyedd. Sicrhewch fod enw, cyfeiriad a'ch manylion cyswllt eich busnes yn union yr un fath ar draws eich gwefan, eich Proffil Busnes Google a'ch cyfeiriaduron ar-lein. Os bydd unrhyw anghysondebau, gall hynny danseilio ymddiriedaeth.
- Cofleidiwch gynnwys ar nifer o foddau: Nid edrych ar destun yn unig y gwna chwiliad bellach. Os byddwch chi'n cyflwyno podlediad neu'n ffilmio tiwtorialau, darparwch drawsgrifiadau ysgrifenedig fel y gall AI ddarllen a mynegeio'r cynnwys llafar.
- Darparwch gynnwys sy’n ffres, lleol: Nid yw cynnwys generig yn cystadlu erbyn hyn. Diweddarwch eich prif dudalennau ag enghreifftiau amserol, o’r byd go iawn a chyd-destun y farchnad leol i ddangos i systemau AI bod eich cynnwys yn gyfredol ac yn werthfawr.
Eich cynllun gweithredu dros 90 diwrnod
Does dim angen ailadeiladu eich gwefan gyfan i'w hoptimeiddio ar gyfer chwiliad AI. Canolbwyntiwch eich ymdrechion ar y tri cham canlynol:
- Gosodwch y sylfeini: Atgyweiriwch ddolenni sydd wedi’u torri, trefnwch dudalennau â phenawdau clir a defnyddio fformatau cwestiwn ac ateb uniongyrchol ar gyfer ymholiadau cyffredin cwsmeriaid.
- Bwydwch y systemau: Diweddarwch eich tudalennau gwasanaeth pwysicaf â ffeithiau diweddar ac astudiaethau achos newydd. Addaswch gynnwys ysgrifenedig yn fideos neu yn ffeithluniau i roi rhagor o gyfleoedd i systemau AI gofnodi eich cynnwys.
- Adeiladwch awdurdod: Tacluswch eich ôl troed digidol. Sicrhewch fod eich proffiliau busnes ar y cyfryngau cymdeithasol ac mewn cyfeiriaduron yn weithredol ac yn gywir. Ychwanegwch fywgraffiadau awduron manwl at erthyglau i brofi arbenigedd dynol go iawn.
Mae chwiliad AI yn gwobrwyo cynnwys sy'n ddefnyddiol, sy’n ddibynadwy ac sy’n hawdd ei ddeall. Y busnesau sy'n addasu nawr fydd y rhai y bydd cwsmeriaid yn dod o hyd iddyn nhw yn gyntaf.