
Dysgwch a oes angen i chi ddechrau defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm a phryd y dylech wneud hynny
Gwiriwch a oes angen i chi ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i roi gwybod am eich incwm o hunangyflogaeth ac eiddo.
Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm os yw’r canlynol i gyd yn berthnasol:
- rydych yn unig fasnachwr neu’n landlord sydd wedi’i gofrestru ar gyfer Hunanasesiad
- rydych yn cael incwm o hunangyflogaeth neu eiddo, neu’r ddau
- mae’ch incwm cymhwysol yn fwy na £20,000
Mae pryd y mae angen i chi ddechrau defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm yn dibynnu ar eich incwm cymhwysol o fewn blwyddyn dreth. Os yw’ch incwm cymhwysol dros y terfynau canlynol:
- £50,000 ar gyfer blwyddyn dreth 2024 i 2025, bydd angen i chi ei ddefnyddio o 6 Ebrill 2026 ymlaen
- £30,000 ar gyfer blwyddyn dreth 2025 i 2026, bydd angen i chi ei ddefnyddio o 6 Ebrill 2027 ymlaen
- £20,000 ar gyfer blwyddyn dreth 2026 i 2027, mae’r Llywodraeth y DU wedi nodi cynlluniau i’w gyflwyno deddfwriaeth i ostwng y trothwy incwm cymhwysol
Bydd angen i bartneriaethau busnes hefyd ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm yn y dyfodol. Byddwn yn nodi’r amserlen ar gyfer hyn yn nes ymlaen.
Nid oes angen i chi ddechrau defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm tan ar ôl i chi gyflwyno’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad gyntaf, ond gallwch ddewis cofrestru’n gynnar.
Bydd Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm yn dod yn orfodol fesul cam, gan ddechrau o 6 Ebrill 2026 ymlaen.
Am ragor o wybodaeth, cliciwch y ddolen hon: Dysgwch a oes angen i chi ddechrau defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm a phryd y dylech wneud hynny - GOV.UK