Newyddion

Trethdalwyr yn cael eu hannog i roi trefn ar bethau cyn dyddiad cau taliad Hunanasesu Gorffennaf

Red clock and number 31 on a calendar

Mae Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn atgoffa miliynau o drethdalwyr Hunanasesu i baratoi ar gyfer dyddiad cau ail daliadau ar gyfrif blwyddyn dreth 2025 i 2026 ar 31 Gorffennaf.

Gall cwsmeriaid sefydlu cynlluniau talu misol neu wythnosol a bydd unrhyw daliadau sydd eisoes wedi'u gwneud trwy'r cynlluniau hyn yn cyfrif tuag at eu bil treth Hunanasesu nesaf.

Gellir gwneud taliadau trwy ap CThEF, mae'n ei gwneud hi'n hawdd i bobl dalu tuag at eu bil treth, gosod nodiadau atgoffa talu ac olrhain a gweld eu hanes talu.

Am fwy o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: Taxpayers urged to get ahead of July Self Assessment payment deadline - GOV.UK.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.