Bydd cystadleuaeth Tref Diwylliant y DU yn cael ei hanelu at drefi bach a chanolig, gan eu galluogi i adrodd eu stori unigryw a rhoi sylw i’r rôl bwysig sydd gan trefi yn ein bywyd cenedlaethol.
Cadarnhawyd heddiw y bydd y dref fuddugol yn derbyn £3 miliwn i'w helpu i gyflwyno rhaglen ddiwylliannol yn ystod haf 2028, gan ddefnyddio’r hyn sy'n gwneud eu tref yn arbennig.
Bydd ceisiadau ar gyfer y gystadleuaeth yn cael eu barnu ar sail tri phrif faen prawf:
- Eich stori - stori unigryw'r dref
- Diwylliant i bawb - sut y bydd y dref yn creu rhaglen ddiwylliannol i bawb
- Gwneud iddo ddigwydd - sut y bydd y dref wedyn yn cyflwyno rhaglen lwyddiannus
Er mwyn annog cymaint o leoedd â phosibl ledled y wlad i gynnig ac i elwa o broses Dinas Diwylliant y DU, bydd pob lle ar y rhestr fer yn derbyn £60,000 yr un i'w helpu i ddatblygu eu ceisiadau llawn ar gyfer y gystadleuaeth.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 31 Mawrth 2026.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: First ever UK Town of Culture competition to restore pride in communities - GOV.UK.