Newyddion

Trawsnewid Gweithgynhyrchu yn y DU trwy Arloesedd Technolegau Digidol

Manufacturing business - AI technology

Arloesedd Made Smarter: Mae Cystadlaethau Effeithlonrwydd Adnoddau ac Ynni BBaCh bellach ar agor ar gyfer ceisiadau. Mae hwn yn gyfle unigryw i dechnolegwyr digidol diwydiannol a sefydliadau gweithgynhyrchu yn y DU sicrhau cyllid grant ar gyfer prosiectau sy'n ysgogi effeithlonrwydd adnoddau ac ynni drwy arloesi digidol.

Mae hyd at £15.5 miliwn o gyllid grant ar gael ar draws dau faes:

  • Astudiaethau dichonoldeb (£25,000 i £150,000).
  • Ymchwil ddiwydiannol (£200,000 i £1,000,000).

Mae grantiau yn talu hyd at 70% o'r costau cymwys ar gyfer sefydliadau micro/bach, a 60% ar gyfer mentrau canolig.

Pwy all wneud cais?

  • Mentrau micro, bach neu ganolig (BBaChau) sydd wedi’u cofrestru yn y DU sy'n gweithredu fel datblygwyr neu weithgynhyrchwyr technoleg.
  • Rhaid i ddatblygwyr technoleg arwain y prosiect. Ar gyfer prosiectau ymchwil diwydiannol, rhaid iddynt gydweithio ag o leiaf ddau fusnes gweithgynhyrchu.
  • Gall prosiectau cydweithredol gynnwys sefydliadau academaidd a sefydliadau ymchwil a thechnoleg. Cofrestrwch ar gyfer sesiwn galw heibio i ddod o hyd i bartner prosiect.

Dylai prosiectau ymdrin ag effeithlonrwydd adnoddau neu ynni mewn gweithgynhyrchu, gan gynnwys:

  • Lleihau gwastraff deunydd crai, proses, pecynnu neu gynnal a chadw.
  • Gwella defnydd o ynni mewn boeleri, unedau cywasgu, moduron, poptai, a mwy.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 10 Rhagfyr 2025. Darganfyddwch fwy: Competition overview - MSI: SME resource and energy efficiency – feasibility studies - Innovation Funding Service.

Gall arloesi helpu'ch sefydliad i ddod yn fwy cystadleuol, i gynyddu gwerthiant, ac i fanteisio ar farchnadoedd newydd. Yma, gallwch weld pa gymorth a chyllid sydd ar gael i'ch helpu chi i arloesi: Cymorth ac arian | Busnes Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.