
Bwriad yr Uwchgynhadledd hon yw dod ag arweinwyr dylanwadol trafnidiaeth a busnes Cymru a Lloegr ynghyd i oresgyn rhwystrau twf economaidd drwy lens trafnidiaeth gyhoeddus.
Mae gwelliannau seilwaith a thrafnidiaeth integredig yn fecanweithiau allweddol i gyflawni ar gyfer ein cymunedau, a bydd yr Uwchgynhadledd hon un gweithio drwy bartneriaethau â nodau ar y cyd i leddfu’r pwysau ar gyllid cyhoeddus.
Cynhelir yr Uwchgynhadledd yn Prifysgol Wrecsam ar 22 a 23 Mai 2025. Mae’r digwyddiad yn cynnwys:
- Sesiynau trafod a phaneli thema
- Arddangosfa arloesedd
- Gweithdai thema
- Canolfan arddangos stondinau marchnad
- Derbynfa rhwydweithio
- Taith teithio llesol (cerdded a theithio ar olwynion) i weld cynlluniau adfywio Wrecsam
- Pryd o fwyd yng nghae ras SToK Wrecsam
Ehangwch eich hunaniaeth yn yr Uwchgynhadledd Trafnidiaeth Gyhoeddus gyda hystod o gyfleoedd noddi.
Gan ddenu partneriaid dylanwadol o drafnidiaeth a busnes yn ogystal â’r llywodraeth, bydd yr Uwchgynhadledd Trafnidiaeth Gyhoeddus yn gyfle gwych i chi gael eich gweld a’ch clywed gan arweinwyr diwydiant o sectorau ar draws y DU.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Cymraeg - Transport for Wales Public Transport Summit 2025