Mae pobl ifanc rhwng 16 a 21 oed yn cael eu hatgoffa i gofrestru ar gyfer fyngherdynteithio am ddim i wneud yn siŵr y gallant fanteisio i'r eithaf ar y tocyn bws £1 pan fydd y cynllun peilot yn dechrau ar 1 Medi 2025.
Ymhen pythefnos bydd prisiau sengl yn costio £1 yn unig a bydd tocynnau £3 diwrnod ar gael hefyd, gan ganiatáu i bobl ifanc gael mynediad at deithio diderfyn gydag unrhyw wasanaethau bws sy'n cymryd rhan.
Mae manylion llawn y cynllun ar gael ar wefan fyngherdynteithio | Hafan.
Bydd rhagor o bobl ifanc yn elwa ar deithiau bws rhatach ledled Cymru wrth i'r cynllun sy'n cynnig tocynnau bws am £1 gael ei estyn i bobl 5–15 oed o heddiw (2 Tachwedd 2025) ymlaen: Bydd bron i chwarter miliwn o deithiau rhatach ar gael wrth i'r cynllun tocyn am £1 gael ei estyn i bobl 5–15 oed | LLYW.CYMRU.