Newyddion

Tîm Cymru i gario brand Cymru Wales i'r podiwm yn Glasgow 2026

Minister for Sport, Jack Sargeant and  Team Wales CEO, Rebecca Edwards-Symmons

Mae brand 'Cymru Wales' Llywodraeth Cymru wedi cydweithio â Thîm Cymru ar gyfer Gemau'r Gymanwlad Glasgow 2026, gan nodi'r tro cyntaf i'r brand ymddangos ar ddillad athletwyr wrth iddynt gystadlu ar lwyfan y byd yr haf hwn.

Bydd y bartneriaeth yn gweld logo Cymru Wales yn ymddangos ar lawes dillad podiwm drwy gydol y Gemau, ochr yn ochr â rhaglen ehangach o weithgareddau ar y cyd sydd wedi'u cynllunio i arddangos Cymru i gynulleidfa fyd-eang.

Fel rhan o'r cydweithrediad, bydd brandio Cymru Wales hefyd i'w weld yn amlwg yn Nhŷ Tîm Cymru yng nghanol Glasgow, lle bydd rhaglen o ddigwyddiadau yn dod â gwerthoedd, diwylliant a hunaniaeth Cymru yn fyw i bobl bwysig sy'n ymweld, y cyfryngau, arweinwyr busnes a gwesteion drwy gydol cyfnod y Gemau.

Bydd cynnwys creadigol hefyd yn cael ei greu gan gynnwys cyfres yn adrodd straeon athletwyr a ffilm sy'n archwilio teithiau personol athletwyr Tîm Cymru. Bydd y rhain yn cael eu defnyddio yn y cyfnod cyn y Gemau, a thrwy gydol y Gemau i ennyn diddordeb cynulleidfaoedd o Gymru a'r tu hwnt.

Am ragor o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol: Tîm Cymru i gario brand Cymru Wales i'r podiwm yn Glasgow 2026 | LLYW.CYMRU.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.