Newyddion

TikTok yn lansio cyngor busnesau bach a chanolig wrth iddo fuddsoddi mewn twf e-fasnach

Person using TikTok to sell online - beauty products

Mae TikTok wedi lansio ei gyngor BBaCh cyntaf ar gyfer busnesau bach sy'n canolbwyntio ar TikTok, wrth i'r platfform cyfryngau cymdeithasol roi hwb i'w adran e-fasnach.

Mae'r cyngor newydd yn cynnwys 20 o fusnesau bach, sy'n defnyddio'r ap cyfryngau cymdeithasol i dyfu eu brand, trwy nodweddion fel siopa byw a hysbysebion siopa.

Daw lansiad y fenter newydd wrth i ymchwil newydd gan Nielsen IQ ganfod mai TikTok Shop oedd y manwerthwr ar-lein a dyfodd gyflymaf yn 2024, gyda chynnydd blynyddol o 131% yn nifer y siopwyr, a chynnydd o 180% mewn refeniw o un flwyddyn i’r llall ar ddiwedd y llynedd.

Daw’r lansiad newydd wedi i TikTok fynd ati i ehangu ei blatfform e-fasnach. Bydd y siop ar-lein hefyd ar gael yn yr Almaen, Ffrainc a'r Eidal.

Am ragor o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol: TikTok launches SME council as it invests in ecommerce growth

Mae’r cyfryngau cymdeithasol wedi hen ennill eu plwyf fel offeryn marchnata. Mae cael presenoldeb arnynt yn creu llinellau cyfathrebu newydd gyda chwsmeriaid presennol a darpar gwsmeriaid.

 Mae Parth Marchnata Busnes Cymru yn llawn gwybodaeth, cyngor a chynghorion ar sut i dynnu sylw at eich busnes – a chynyddu eich elw – trwy farchnata effeithiol, cyffrous: Parth Marchnata | Busnes Cymru

Darganfyddwch sut i greu presenoldeb ar-lein ar gyfer eich busnes drwy gofrestru ar gyfer ein cwrs BOSS rhad ac am ddim, sef un o'r cyrsiau digidol a grëwyd gan arbenigwyr pwnc Busnes Cymru i'ch cefnogi i ddechrau a rhedeg busnes yn llwyddiannus.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.