Newyddion

TikTok Shop yn Lansio Cynllun 'Shop Local’ gwerth £750,000

Business owner selling goods on line via mobile phone app

Mae TikTok Shop wedi lansio 'Shop Local', cynllun cymorth sydd â'r nod o gysylltu busnesau bach y DU â chwsmeriaid lleol.

Bydd 'Shop Local' TikTok yn dyfarnu pecyn cymorth gwerth £150,000 i bum busnes bach, wedi'i gynllunio i gael busnesau bach ar waith ar TikTok Shop.

Mae'r gystadleuaeth 'Shop Local' yn agored i holl fusnesau yn y DU:

  • sy’n gwerthu nwyddau a gynhyrchir yn lleol (o leiaf 40% wedi'u gwneud neu sy’n dod o’r DU)
  • sydd â llai na 250 o weithwyr
  • nad ydynt yn gwerthu eto ar TikTok Shop

I gystadlu, crëwch fideo TikTok byr yn arddangos eich busnes, eich cynhyrchion, a'r effaith rydych chi'n ei chael yn eich cymuned leol. Cynhwyswch yr hashnod #ShopLocalComp a'r tag @TikTokShop_UK, yna cyflwynwch eich cais erbyn 13 Tachwedd 2025.

Ewch i TikTok Shop i ddysgu mwy am fenter Shop Local.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.