Newyddion

Tashwedd/Movember

Man holding a face paper moustache

Dysgwch sut y gall cyflogwyr ddefnyddio’r ymgyrch Tashwedd/Movember i wella ymwybyddiaeth o iechyd dynion yn y gweithle ac i annog gweithwyr i siarad am eu hiechyd meddyliol a chorfforol.

Mae Tashwedd/Movember yn gyfle i ddynion yn y gweithlu ofalu am eu hiechyd ac i newid sut rydym yn meddwl am iechyd dynion.

Dyma rai manteision o gefnogi Tashwedd/Movember yn y gweithle:

  • Gwell iechyd meddwl a lles i’ch gweithwyr
  •  Gall cefnogi dynion eu helpu i fyw’n iachach
  •  Gall sgyrsiau agored feithrin perthnasau cadarnhaol yn y gwaith, gan leihau straen yn y gweithle

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Tashwedd/Movember - Cymru Iach ar Waith.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.