
Mae’r trydedd rownd o gyllid yn cefnogi 21 o leoliadau cerddoriaeth, stiwdios a busnesau ledled Cymru.
Dyfarnwyd hyd at £40,000 yr un i 21 o leoliadau cerddoriaeth, stiwdios recordio, mannau ymarfer a chanolfannau celfyddydau o bob cwr o Gymru i roi hwb i'w gwaith a'u cynaliadwyedd ar gyfer eu llwyddiant hirdymor.
Bellach yn ei thrydedd rownd, mae Cronfa Gyfalaf Cerddoriaeth Cymru Greadigol (MCF) yn cynnig grantiau rhwng £10,000 a £40,000 - cyfanswm o dros £700,000 yn y rownd hon - i fusnesau cerddoriaeth bach a chanolig, gan eu galluogi i nodi meysydd o'u gwaith a fyddai'n elwa ar fuddsoddiad.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn defnyddio'r cyllid i wella a chynyddu eu rhagolygon masnachol a'u cynaliadwyedd, gan fod o fudd i'r diwydiant cerddoriaeth ehangach yng Nghymru.
Ymhlith y rhai nodedig a fydd yn derbyn cyllid mae Steffan Pringle Music yn Rhondda Cynon Taf, sy'n bwriadu creu stiwdio recordio o'r radd flaenaf ochr yn ochr ag ystafell gymysgu a meistroli. Bydd Musicbox Studios yng Nghaerdydd hefyd yn mynd i'r afael â gwaith adnewyddu ac yn gwneud gwelliannau amgylcheddol fel rhan o gynlluniau moderneiddio.
Mae'r cyllid hefyd yn ymestyn i leoliadau a stiwdios ledled y wlad, gan gynnwys stiwdio recordio Sain yng Ngwynedd, ROC2 Studios yn Wrecsam, CWRW yn Sir Gaerfyrddin, a The Lost ARC ym Mhowys.
Mae'r Gronfa Gyfalaf Cerddoriaeth yn rhan o ymrwymiad ehangach Llywodraeth Cymru i gefnogi'r diwydiannau creadigol ledled Cymru. Mae lleoliadau cerddoriaeth, stiwdios recordio, a busnesau cysylltiedig yn chwarae rhan hanfodol yn nhirwedd ddiwylliannol ac economaidd Cymru, gan ddarparu cyfleoedd i dalent sy'n dod i'r amlwg ar un pryd â chyfrannu at economïau lleol.
Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen hon: Taro'r nodyn cywir: cronfa yn dyfarnu dros £700,000 i fusnesau cerddoriaeth Cymru | LLYW.CYMRU.