Newyddion

Tariffau masnach yr Unol Daleithiau

US Flag

Cyhoeddodd yr Unol Daleithiau dariffau wedi'u diweddaru ar 2 Ebrill 2025.

Mae'r Unol Daleithiau wedi cyhoeddi y bydd yn gosod tariff ychwanegol o 10% ar ben tollau, ffioedd a threthi presennol yr Unol Daleithiau ar fewnforion o'r DU. Bydd hyn yn dod i rym ar 5 Ebrill am 00:01 EST.

Nid yw'r tariffau ychwanegol hyn yn berthnasol i’r mewnforion canlynol i’r Unol Daleithiau:

  • eitemau dur ac alwminiwm a cheir/rhannau o geir, sy'n ddarostyngedig i dariffau ychwanegol o 25% ar wahân
  • copr, cynhyrchion fferyllol, lled-ddargludyddion a phren
  • ynni, cynhyrchion ynni a mwynau eraill nad ydyn nhw ar gael yn yr Unol Daleithiau

Cais am fewnbwn

Gall busnesau rannu eu barn ar fesurau posibl y DU mewn ymateb i dariffau newydd yr Unol Daleithiau. Dewch o hyd i ragor o wybodaeth a sut i ymateb cyn 11:59 EST ar 1 Mai ar GOV.UK.

Am ragor o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol: US trade tariffs

Mae gwybodaeth gyffredinol am allforio o'r DU i'r Unol Daleithiau ar gael ar yn yr US Market Guide.

Darllenwch ddatganiad ysgrifenedig Llywodraeth Cymru ar Dariffau'r Unol Daleithiau.

Edrychwch ar ein Hwb Allforio lle gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am Dariffau.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.