Gan Sara Robinson, Hyfforddwr Cysylltiadau Cyhoeddus a Chyfathrebu RCT
Rydyn ni bron â mynd drwy fis Ionawr eisoes ac os nad ydych chi wedi trefnu eich strategaeth cysylltiadau cyhoeddus ar gyfer 2026, dyma’r amser i wneud hynny. Mae’r dirwedd yn parhau i ddatblygu ym maes cysylltiadau cyhoeddus ac mae angen i fusnesau sy’n tyfu weithio mewn ffordd ddoethach i dorri trwy’r sŵn a meithrin perthnasoedd ystyrlon â’u cynulleidfaoedd. Pa un ai a ydych chi’n tyfu’n gyflym neu’n magu momentwm, dyma fy mhrif strategaethau i danio eich cysylltiadau cyhoeddus eleni.
Dechreuwch gyda stori glir
Cyn ceisio sylw, byddwch yn hollol glir am eich stori chi. Pa broblem ydych chi’n ei datrys? Pam mae’n bwysig? Beth sy’n gwneud eich dull chi’n wahanol?
Nid dim ond beth rydych chi’n ei wneud yw eich stori chi. Mae hefyd yn golygu pam rydych chi’n ei wneud, pwy sy’n elwa a’r effaith rydych chi’n ei chreu. Mae newyddiadurwyr a chynulleidfaoedd yn cysylltu â busnesau sy’n glir o ran eu pwrpas a’u personoliaeth. Treuliwch amser yn mireinio eich naratif craidd cyn i chi ei gynnig yn unrhyw le.
Meithrin perthnasoedd, nid dim ond rhestrau cyfryngau
Mae’r cysylltiadau cyhoeddus gorau’n deillio o’r perthnasoedd go iawn â newyddiaduron, podledwyr a dylanwadwyr sy’n gofalu am eich sector chi. Y cam cyntaf yw dod yn glir am bwy rydych chi am eu targedu. Gall ymchwil desg eich helpu chi i greu rhestr darged ar gyfer y cyfryngau. Mae angen amser i wneud hyn ond bydd yn talu ar ei ganfed maes o law.
Pan fydd gennych chi restr o newyddiadurwyr yr hoffech chi fynd atyn nhw, dechreuwch ddilyn eu gwaith nhw. Rhannwch eu herthyglau nhw. Gwnewch sylwadau meddylgar ar LinkedIn.
A chofiwch fod angen amser i feithrin perthnasoedd. Dechreuwch eu meithrin nhw nawr, hyd yn oed os nad oes gennych chi unrhyw straeon y mae angen rhoi sylw iddyn nhw heddiw. Pan fyddwch chi’n mynd ati i gynnig yn y pen draw, fyddwch chi ddim yn ddieithryn ond yn enw maen nhw’n ei adnabod ac yn ymddiried ynddo.
Arweiniwch gyda chanfyddiadau, nid cynigion gwerthu
Caiff newyddiadurwyr ddwsinau o gynigion stori bob dydd. Anwybyddir y rhan fwyaf oherwydd e bod hi’n hawdd gweld eu bod nhw’n negeseuon gwerthiant.
Beth sy’n gweithio? Cynnig canfyddiad go iawn. Rhannu data o’ch sector chi. Gwneud sylw ar duedd rydych chi’n ei gweld â’ch llygaid. Rhoi dadansoddiad arbenigol ar stori sy’n torri.
Gosodwch eich hun yn ffynhonnell i droi ati, nid yn fusnes sy’n ceisio hysbysebu rhad ac am ddim. Pan fyddwch chi’n arwain o ran gwerth, bydd y sylw’n dilyn yn naturiol.
Meddyliwch y tu hwnt i’r cyfryngau traddodiadol
Nid yw cysylltiadau cyhoeddus yn 2026 yn golygu papurau newydd a chylchgronau masnach yn unig. Mae podlediadau, arweinwyr meddwl LinkedIn, gweminarau a gwobrau diwydiant yn creu hygrededd a gwelededd.
Ystyriwch ble mae eich cynulleidfa’n treulio ei hamser mewn gwirionedd. Gall cyfweliad podlediad sydd wedi’i osod yn dda neu erthygl LinkedIn sy’n ennyn llawer o ddiddordeb fod yr un mor werthfawr â sylw yn y wasg.
Amrywiwch eich dull. Rhowch brawf ar wahanol blatfformau. Olrheiniwch beth sy’n gyrru canlyniadau busnes go iawn, nid dim ond metrigau ymffrost.
Gwnewch yn fawr o wobrau
Mae gwobrau’n offer grymus o ran cysylltiadau cyhoeddus sy’n adeiladu hygrededd, sy’n denu talent ac sy’n agor drysau i bartneriaethau newydd.
Dewiswch y gwobrau sydd o bwys i’ch sector chi. Buddsoddwch amser i lunio ceisiadau cryf sy’n adrodd eich stori chi’n dda. Os byddwch chi’n ennill, cynyddwch yr achlysur â datganiadau i’r wasg, cynnwys cymdeithasol a diweddariadau gwefan.
Mae hyd yn oed cyrraedd y rhestr fer yn rhywbeth gwerth bloeddio amdano. Mae’n ddilysiad trydydd parti eich bod chi’n gwneud rhywbeth yn iawn. Darllenwch ein cyngor gorau ar baratoi ceisiadau buddugol am wobrau.
Manteisio ar straeon cleientiaid a phartneriaid
Eich cleientiaid a’ch partneriaid chi yw rhai o’ch eiriolwyr gorau. Mae astudiaethau achos, tystiolaethau a chyd-gyhoeddiadau yn ychwanegu hygrededd ac yn ehangu eich cyrhaeddiad.
Pan fydd cleient yn cyflawni rhywbeth o bwys gyda’ch cymorth chi, holwch a fyddai’n barod i rannu ei stori. Mae cynnwys wedi’i gyd-ysgrifennu neu gyd-ddatganiadau i’r wasg yn dangos effaith yn y byd go iawn ac yn cyflwyno eich busnes chi i gynulleidfaoedd newydd.
Mynnwch ganiatâd o hyd cyn rhannu straeon cleientiaid ar goedd a gwnewch hi’n hawdd iddyn nhw drwy ddrafftio’r cynnwys eich hun.
Byddwch yn barod pan fydd cyfle’n codi
Cyfleoedd digymell yw rhai o’r adegau gorau o ran cysylltiadau cyhoeddus. Mae angen sylw munud olaf ar newyddiadurwr. Stori newyddion sy’n torri ac sy’n ymwneud â’ch arbenigedd chi. Rhywun wedi canslo gyda chyflwynydd podlediad.
Os ydych chi’n barod, gallwch chi ymateb yn gyflym ac yn broffesiynol. Cadwch bio cyfredol ar gyfer y cyfryngau, penluniau, ac ystadegau busnes allweddol mewn ffolder hawdd i’w ddefnyddio. Ymarferwch esbonio beth rydych chi’n ei wneud mewn 30 o eiliadau. Gwnewch yn siŵr bod gan eich gwefan chi git gwasg hawdd ei ddarganfod er mwyn i newyddiadurwyr allu cael gwybodaeth a chysylltu â chi.
Dyw cyfleoedd cysylltiadau cyhoeddus da ddim yn aros amdanoch chi. Byddwch yn barod i gydio ynddyn nhw.
Mesurwch beth sy’n bwysig
Nid mater o fodfeddi mewn colofnau papurau yn unig yw cysylltiadau cyhoeddus. Mae’n ymwneud ag effaith. Ydych chi’n denu’r cwsmeriaid cywir? Yn adeiladu eich enw da yn eich sector chi? Yn gyrru traffig i’ch gwefan?
Olrheiniwch fetrigau sy’n cyd-fynd â’ch nodau busnes. Dylai cysylltiadau cyhoeddus da symud y nodwydd o ran beth sy’n bwysig i’ch busnes chi. Os nad yw’n gwneud hynny, addaswch eich dull.
Mynnwch gymorth pan fydd ei angen arnoch chi
Mae angen amser, sgil a pharhad ar gyfer cysylltiadau cyhoeddus. Os ydych chi wedi eich lledu’n denau wrth reoli twf, ystyriwch ddod ag arbenigwr i mewn i helpu i lunio eich strategaeth a sicrhau sylw sy’n symbylu canlyniadau.