Hoffai Llywodraeth y DU glywed eich barn ar reoleiddio pyrotechneg a thân gwyllt yn y DU.
Pwrpas yr ymgynghoriad yw deall eich barn ar gynigion i:
- gyfyngu ar argaeledd tân gwyllt swnllyd i'r cyhoedd yn gyffredinol, gyda'r cynhyrchion mwyaf swnllyd ar gael i ddefnyddwyr proffesiynol yn unig.
- ychwanegu cynhyrchion yr ystyrir eu bod yn peri risgiau annerbyniol at y rhestr o gynhyrchion pyrotechnegol sydd eisoes wedi'u gwahardd a nodir yn rheoliad 33 o Reoliadau Eitemau Pyrotechnegol (Diogelwch) 2015 (fel y'u diwygiwyd).
- adolygu'r rheoliadau ar gyfer tân gwyllt a chynhyrchion pyrotechnegol sydd wedi'u categoreiddio'n risg is ar hyn o bryd, i adlewyrchu'n well y gwahanol lefelau o risg maen nhw'n eu peri.
Mae'r ymgynghoriad yn cau am 11:59pm ar 7 Hydref 2026
Dyma'r ddolen i'r ymgynghoriad: Fireworks and pyrotechnics in the UK - GOV.UK.