
Enillwch grant busnes bach heddiw!
Mae Enterprise Nation yn cydweithio â Monzo i roi cymorth ariannol i'ch helpu i ddatblygu eich syniad busnes nesaf, cynnyrch neu wasanaeth newydd, neu strategaeth twf.
Bydd tri busnes bach yn derbyn grantiau: £10,000 i’r cyntaf, £8,000 i’r ail a £7,000 i’r trydydd.
I fod yn gymwys i wneud cais, rhaid i'ch busnes:
- fod wedi’i leoli yn y Deyrnas Unedig
- bod â chyfrif banc busnes yn y DU neu fod yn barod i agor un os ydych yn ennill
- bod yn fusnes cofrestredig neu wedi'i gofrestru fel hunangyflogedig gyda phrawf o Gyfeirnod Unigryw Trethdalwr (UTR)
- wedi bod yn masnachu am o leiaf tri mis a dim mwy na 72 mis
- peidio â bod yn destun ansolfedd, archwiliaeth, derbynyddiad neu unrhyw broses gysylltiedig neu debyg, ac
- os oes gofyn, bod yn barod i rannu ei stori lwyddiant o sut y defnyddiodd y grant (gall Monzo ddefnyddio a / neu gyhoeddi'r manylion hyn ymhellach at wahanol ddibenion megis marchnata, hysbysebu a chysylltiadau cyhoeddus)
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 28 Chwefror 2025.
I gael mwy o wybodaeth, cliciwch y ddolen ganlynol: StartUp Idea | Win a grant for your small business | Enterprise Nation
StartUp Idea | Win a grant for your small business | Enterprise Nation