
Gyda ymosodiadau seiber ar y newyddion yn rheolaidd, mae Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) yn atgoffa busnesau i wirio bod ganddyn nhw y mesurau diogelwch priodol yn eu lle i ddiogelu gwybodaeth bersonol.
Yn ôl Ffigyrau llywodraeth y Deyrnas Unedig (DU) fe amcangyfrifir bod busnesau wedi profi 7.7 miliwn o droseddau seiber dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae’r rhan fwyaf o fusnesau bach yn cadw gwybodaeth bersonol ac yn rhedeg eu gwaith yn ddigidol. Mae’n gwbl hanfodol felly bod seiberddiogelwch yn flaenoriaeth i’r busenesau bach hynny.
Dyma rai camau ymarferol y gall busnesau a'u staff eu cymryd i wella eu diogelwch a'u gwytnwch data:
- Gwneud copi wrth gefn o'ch data.
- Defnyddio cyfrineiriau cryf a dilysiad (authentication) sy’n defnyddio sawl ffactor.
- Byddwch yn ymwybodol o'r hyn sydd o’ch cwmpas..
- Byddwch yn wyliadwrus o negeseuon e-bost amheus.
- Gosodwch amddiffyniad gwrth-firws a malware a'i gadw'n gyfredol.
- Amddiffynnwch eich dyfais pan na fydd goruchwyliaeth.
- Gwnewch yn siŵr bod eich cysylltiad Wi-Fi yn ddiogel.
- Sicrhewch mai dim ond y rhai sydd angen gwneud hynny sy’n cael mynediad.
- Cymerwch ofal wrth rannu eich sgrin ag eraill a byddwch yn ofalus wrth anfon negeseuon e-bost at sawl person.
- Peidiwch â chadw data am fwy o amser nag sydd ei angen arnoch.
- Gwaredwch hen offer Technoleg Gwybodaeth a chadwch a’ch ffeiliau yn ddiogel.
Os ydy sefydliad yn profi tor ddiogelwch data o ganlyniad i ymosodiad seiber, dylent adrodd amdano wrth yr ICO o fewn 72 awr ar ôl dod yn ymwybodol ohono.
I dderbyn mwy o gyngor ar ddiogelu gwybodaeth bersonol, ewch i'w canllawiau diogelwch ar gyfer sefydliadau.
I dderbyn mwy o gymorth ar seiberddiogelwch, ewch i wefan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol a'r rhaglen Cyber Essentials, cynllun ardystio a gefnogir gan Lywodraeth y DU sy'n helpu i gadw data eich sefydliad a'ch cwsmeriaid yn ddiogel rhag ymosodiadau seiber.
Mae cymorth hefyd ar gael ar gyfer pobl, busnesau a gwasanaethau cyhoeddus er mwyn lleihau'r risg o ymosodiadau seiber ar gael ar Cyngor ac arweiniad ar seiberddiogelwch | LLYW.CYMRU.