Gan weithio gyda Sefydliad Cymunedol Cymru mae South West Enterprise Fund (SWEF) i gefnogi entrepreneuriaid ifanc (18-30 oed) i fuddsoddi yn eu menter fusnes a/neu eu cefnogi i fynd â’u busnes i’r lefel nesaf.
Blaenoriaeth y gronfa hon yw cefnogi’r rhai sydd â llai o fantais yn eu bywyd cynnar, sy’n wynebu rhwystrau i fuddsoddi yn eu busnes ac na allant gynhyrchu cyllid o ffynonellau eraill.
Mae‘r gronfa hon bellach ar agor i geisiadau.
Bydd y gronfa yn cau am hanner dydd ddydd Llun 19 Ionawr 2026.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: SWEF - grantiau menter a busnes - Community Foundation Wales.
Os ydych yn 25 oed neu’n iau yng Nghymru, cewch ysbrydoliaeth gan entrepreneuriaid llwyddiannus, a throsi eich syniad yn realiti gyda chyngor, gweithdai a chymorth. Efallai mai dy syniad di yw'r syniad mawr nesaf! Rydym yma i helpu: Syniadau Mawr Cymru | Big Ideas Wales.