
Mae Cymru Greadigol a Netflix wedi datgelu bod cynyrchiadau Netflix yng Nghymru wedi cyfrannu dros £200 miliwn (€233.7m) i economi'r DU ers 2020.
Mae'r adroddiad yn dangos sut mae cynyrchiadau yng Nghymru hefyd wedi cefnogi dros 500 o fusnesau o bob cwr o Gymru yn y cyfnod hwnnw. Mae'r hwb hwn wedi bod o fudd i lawer o sectorau, gyda chynyrchiadau’n cefnogi ystod eang o bobl, sgiliau, gwasanaethau a seilwaith. Am bob £1 sy'n cael ei wario gan Netflix yng Nghymru:
- Mae 58c yn cael ei wario yn y sectorau teledu a ffilm
- Mae 7c yn cael ei wario ar rentu a phrydlesu
- Mae 5c yn cael ei wario yn y sector celfyddydau creadigol
- Mae 3c yn cael ei wario ar fwyd a lletygarwch
- Mae 27c yn cael ei wario ar draws sectorau eraill yr economi.
Y tu hwnt i wariant uniongyrchol, mae cynyrchiadau Netflix hefyd wedi dod â budd i fusnesau sy'n cyflenwi nwyddau a gwasanaethau i'r diwydiant. Am bob £1 sy'n cael ei wario gan Netflix yng Nghymru, cynhyrchir 80c ychwanegol mewn gwariant ar draws y gadwyn gyflenwi.
Mae cyfleoedd sylweddol i dalent ifanc o Gymru ennill profiad ymarferol yn y diwydiant yn cael eu creu hefyd. Creodd cynhyrchiad Sex Education dros 60 o rolau hyfforddi a phrentisiaethau gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru drwy Gymru Greadigol, ac mae llawer ohonynt wedi arwain at swyddi amser llawn.
Mae Netflix a rhaglen 'IGNITE Your Creativity' y Theatr Ieuenctid Genedlaethol wedi helpu dros 350 o bobl ifanc mewn gweithdai a gynhaliwyd ar draws Casnewydd, Caerdydd, Port Talbot, Torfaen a Phen-y-bont ar Ogwr. Roeddent wedi'u cynllunio i feithrin eu hyder ac ehangu eu rhwydweithiau cyn gyrfa mewn diwydiannau creadigol.
Am ragor o wybodaeth, dilynwch y ddolen hon: Report: Netflix’s Welsh productions generate £200m for UK economy | Advanced Television
Ydych chi'n ystyried ffilmio yng Nghymru? Mae ein harbenigwyr yn cynnig cymorth ymarferol ar gyfer pob math o gynyrchiadau ffilm a theledu. Rydyn ni yma i'ch cysylltu â'n lleoliadau ysbrydoledig, ein talent lleol a’n cyfleusterau blaengar. Cymerwch olwg ar Gymru Greadigol i ddarganfod mwy; Ffilmio yng Nghymru | Cymru | Greadigol
Rhyddhau heddiw y ffilm fwyaf erioed i gael ei saethu'n llwyr yng Nghymru: Mae'r thriller HAVOC, gafodd ei chynhyrchu gyda chymorth Cymru Greadigol, yn cael ei rhyddhau heddiw ar Netflix. Dyma'r ffilm fwyaf erioed i gael ei saethu'n llwyr yng Nghymru, yn ôl adroddiad diweddar gan y cwmni ffrydio.