Newyddion

Sut i osgoi camgymeriadau costus mewn contractau wrth i chi dyfu

How to avoid costly contract mistakes as you scale

Gan Paul James, Partner Aur y Rhaglen Cyflymu Twf 

Pan fyddwch chi'n tyfu'n gyflym, gall contractau masnachol deimlo fel gwaith gweinyddol, rhywbeth i'w lofnodi a'i ffeilio. Ond os ewch chi o le gyda’r rhain, gallai hynny greu risg ddifrifol i’ch busnes chi. Mae deall y telerau allweddol yn eich contractau yn eich helpu chi i amddiffyn eich busnes, rheoli disgwyliadau ac osgoi anghydfod fydd yn costio amser ac arian.

Gwnewch y pethau sylfaenol yn iawn o’r dechrau

Pwy sy’n llofnodi’r contract hwn mewn gwirionedd? Mae’n swnio’n amlwg, ond mae aneglurder wrth nodi partïon yn achos cyffredin anghydfodau. Gwnewch yn siŵr bod pob contract yn enwi'n glir yr endidau cyfreithiol dan sylw - nid dim ond yr enwau masnachu. Diffiniwch y termau allweddol o’r dechrau i osgoi dryswch maes o law.

Deallwch pryd a sut y gallwch chi gerdded i ffwrdd

Mae angen llwybrau gadael clir ar bob contract. Beth os bydd cyflenwr yn methu â chyflawni? Beth os bydd eich busnes yn troi ac y bydd angen i chi ddod â phartneriaeth i ben yn gynnar? Mae cymalau terfynu cryf yn eich amddiffyn chi trwy egluro pryd y gallwch adael, pa rybudd sydd ei angen a beth sy’n digwydd i daliadau sy’n weddill.

Eglurwch beth mae ‘wedi’i wneud’ yn ei olygu

Mae rhwymedigaethau annelwig yn arwain at anghydfodau. Dylai eich contract ddiffinio’n union beth y mae’n rhaid i bob parti ei gyflawni, gan gynnwys safonau ansawdd, amserlenni a chyfrifoldebau. Os byddwch chi’n glir iawn o’r dechrau, bydd llawer llai o le i gamddealltwriaeth maes o law.

Amddiffynnwch eich llif arian

Gall taliadau hwyr faglu busnes sy’n tyfu. Dylai eich contract chi nodi dyddiadau terfynol talu, dulliau a chanlyniadau taliadau hwyr. Mae cynnwys cymalau llog am anfonebau hwyr yn rhoi mantais i chi ac yn amddiffyn eich cyfalaf gweithio.

Rheolwch risg cyn i broblemau godi

Addewidion am beth rydych chi’n ei brynu yw gwarantau, sy’n cynnwys ansawdd, cydymffurfio a pherfformiad. Os torrir yr addewidion hynny, bydd gennych chi hawl i gymhorthdal. Mae indemniadau yn mynd ymhellach trwy eich amddiffyn chi rhag hawliadau trydydd partïon. Mae’r naill a’r llall yn symud risg ac yn rhoi amddiffyniad cyfreithiol i chi os aiff pethau o chwith.

Amddiffynnwch beth sy’n eich gwneud chi’n gystadleuol

Os byddwch chi'n rhannu gwybodaeth fusnes sensitif megis rhestrau cwsmeriaid, strategaethau prisio neu brosesau perchnogol, mae angen amddiffyniad cyfrinachedd arnoch. Mae’r cymalau hyn yn atal eich partneriaid, eich cyflenwyr, neu’ch contractwyr rhag datgelu neu gamddefnyddio eich cyfrinachau masnachol.

Eglurwch pwy sy’n berchen ar beth

Pwy sy’n berchen ar yr eiddo deallusol (IP) a grëir yn ystod prosiect? Os byddwch chi’n comisiynu meddalwedd, brandio, neu waith creadigol, mae angen i drefnu bod hyn yn gwbl glir. Heb gymalau IP clir, gallech chi fod yn talu yn y pen draw am waith nad ydych chi’n berchen arno mewn gwirionedd.

Capiwch y risg sydd i chi

Mae’r rhan fwyaf o gontractau’n cyfyngu ar atebolrwydd am fathau arbennig o golled ac yn capio’r cyfanswm y gallwch chi eu hadfer. Er na allwch chi eithrio atebolrwydd am esgeulustod sy’n achosi marwolaeth neu anaf, neu am dwyll, gallwch chi amddiffyn eich busnes rhag risg ariannol anghyfyngedig.

Parhewch i gydymffurfio â chyfreithiau data

Os yw eich contract chi’n cynnwys trafod data personol, mae angen bod gennych chi rwymedigaethau clir ynghylch diogelwch, defnydd cyfreithiol a rhoi gwybod am dorri’r gyfraith. Gall camgymryd yn hyn o beth arwain at gosbau rheoleiddio difrifol.

Peidiwch ag anwybyddu’r print mân

Efallai fod cyfraith lywodraethu, datrys anghydfodau, a chymalau amrywio yn ymddangos yn safonol, ond maen nhw'n bwysig. Maen nhw’n penderfynu pa gyfreithiau gwlad sy'n berthnasol, sut y caiff anghydfodau eu datrys ac a gewch chi newid telerau maes o law. Darllenwch nhw’n ofalus.

Sicrhewch fod contractau’n iawn er mwyn tyfu’n hyderus

Mae contractau masnachol cryf yn amddiffyn eich busnes chi wrth i chi dyfu. Maen nhw'n egluro disgwyliadau, yn dyrannu risg yn deg ac yn rhoi amddiffyniad cyfreithiol i chi pan nad yw pethau'n dilyn y cynllun. Peidiwch â’u trin nhw yn waith papur ond yn offer twf hanfodol.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.