Newyddion

Sut gall busnesau gefnogi Arbedion yr Haf

Child eating pasta at a restaurant

Gall busnesau o bob cwr o’r DU helpu teuluoedd i fwynhau eu gwyliau haf am lai o gost eleni.

Trwy gynllun Arbedion Haf Llywodraeth y DU, bydd TAW yn cael ei leihau dros dro o 20% i 5% ar brydau bwyd i blant, tocynnau plant i’r sinema, theatrau, cyngherddau ac arddangosfeydd, ac ar brisiau mynediad i lawer o atyniadau.

Os ydych chi’n rhedeg bwyty, atyniad, theatr, sinema neu leoliad arall sy’n cynnig gweithgareddau cymwys i blant, gallwch ddefnyddio pecyn cymorth busnesau y Great British Summer Savings i ddangos eich bod chi’n cymryd rhan ac i roi gwybod i’r cwsmeriaid o’r arbedion posibl.

Mae'r pecyn cymorth yn cynnwys:

  • Logos a dyluniadau’r cynllun

  • Posteri, sticeri a graffeg i’ch lleoliad

  • Negeseuon parod ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol

  • Copi gwefan a chylchlythyr

Am fwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen hon: Arbedion Haf Mawr Prydain.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.