Newyddion

Strategaeth Ynni Genedlaethol i amlinellu gweledigaeth newydd ar gyfer ynni yng Nghymru

Cabinet Member for Enterprise, Connectivity and Energy, Adam Price with Jim O'Toole, Managing Director of the Port of Mostyn

Mae Llywodraeth Cymru wrthi'n mireinio ei dull ar gyfer Strategaeth Ynni Genedlaethol, a fydd yn cael ei chyhoeddi yn ddiweddarach eleni. Mae'n nodi gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer system ynni carbon isel sy'n cadw gwerth yng nghymunedau Cymru.

Bydd y canlyniad yn mapio anghenion ynni Cymru nawr ac yn y dyfodol a'r ffordd mae'n bwriadu darparu'r seilwaith sydd ei angen i'w diwallu. Bydd yn blaenoriaethu perchnogaeth gymunedol ystyrlon, lleihau biliau a sicrhau bod cymunedau Cymru yn derbyn manteision llawn ynni carbon isel.

Bydd hefyd yn gweld targedau ynni adnewyddadwy yn cael eu disodli gan ostyngiadau mewn allyriadau, ac yn blaenoriaethu sylfaen dystiolaeth glir i ystyried opsiynau o ran lle y dylid cynnal datblygiadau yng Nghymru.

Bydd cymunedau yn ganolog i'r dull hwn – bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried nid yn unig ble y gellir cyflawni prosiectau, ond sut y gallan nhw sicrhau cefnogaeth cymunedau lleol.

Bydd angen newidiadau i'r ffordd mae ynni yn cael ei gynllunio, gan sicrhau bod maint, lleoliad ac effaith datblygiadau'n cael eu hystyried yn briodol, wrth ddiogelu tir amaethyddol cynhyrchiol. Mae hyn yn newid sylweddol yn y ffordd y mae ynni'n cael ei ddarparu yng Nghymru.

Ymwelodd yr Aelod Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni, Adam Price, â Phorthladd Mostyn a Phorthladd Aberdaugleddau i drafod eu rôl hanfodol wrth gefnogi'r sector ynni gwynt ar y môr.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Strategaeth Ynni Genedlaethol i amlinellu gweledigaeth newydd ar gyfer ynni yng Nghymru | LLYW.CYMRU.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.