
Darllenwch y diweddariad ar drosglwyddiad y Swyddfa Gartref i eFisâu a pham mae angen un arnoch.
Mae Fisâu a Mewnfudo y DU (UKVI) yn datblygu system fewnfudo ddigidol. Mae hyn yn golygu bod dogfennau papur yn cael eu disodli gan gofnod ar-lein o'ch statws mewnfudo. Gelwir hyn yn eFisa.
Mae trwyddedau preswylio biometrig (BRPs) eisoes wedi'u disodli gan eFisâu. Dyma’r dogfennau eraill a fydd yn cael eu disodli:
- cardiau preswylio biometrig (BRC)
- arnodiadau pasbort, fel stampiau inc gwlyb ar gyfer caniatâd i gael mynediad am gyfnod amhenodol
- sticeri vignette mewn pasbortau, fel rhai cymeradwyo mynediad neu fisa
Mae eFisa yn gofnod ar-lein o'ch statws mewnfudo ac amodau eich caniatâd i gael mynediad i’r DU neu i aros yn y DU. Mae angen i chi greu cyfrif UKVI i allu gweld eich eFisa.
Os ydych chi wedi cael caniatâd i aros yn y DU am fwy na 6 mis, neu os oes gennych ganiatâd i aros am gyfnod amhenodol (a elwir hefyd yn setlo) bydd angen eFisa arnoch i brofi eich hunaniaeth a'ch statws yn y DU.
Mae angen i chi greu cyfrif UKVI i gael mynediad i'ch eFisa a rhannu gwybodaeth am eich statws a'ch amodau mewnfudo, fel eich hawl i weithio neu rentu yn y DU, gan ddefnyddio'r gwasanaeth gweld a phrofi.lang="CY">
Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen hon: Online immigration status (eVisa) - GOV.UK