Newyddion

Sker Ritual yn mynd i'r Lefel Nesaf

Sker Ritual - game

Mae'r gêm arswyd zombie boblogaidd o Gymru, Sker Ritual, yn parhau i adeiladu ar ei llwyddiant byd-eang gyda rhyddhau ei phennod ddiweddaraf, Tides of Terror, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol.

Wedi'i ddatblygu gan Wales Interactive o Benarth, mae Sker Ritual yn gêm arswyd ddychrynllyd am saethu zombies wedi'i hysbrydoli gan lên gwerin Cymru; gêm oedd yn hynod boblogaidd o'r cychwyn cyntaf pan lansiwyd hi ym mis Ebrill 2024. Cyrhaeddodd y gêm y siartiau hapchwarae byd-eang ar unwaith, gan gyrraedd y 3 uchaf ar Steam, y 5 uchaf ar Xbox a'r 10 uchaf ar PlayStation, gan gadarnhau ei lle fel un o gemau cyfrifiaduron a chonsolau mwyaf poblogaidd y byd ar y lansiad ac yn llwyddiant mawr i Gymru.

O ganlyniad i'w llwyddiant cychwynnol, edrychodd Wales Interactive beth allai fod yn bosibl ar gyfer dyfodol bydysawd Sker Ritual, a daeth y cwmni gemau cyntaf i dderbyn Cyllid Cynhyrchu Cymru Greadigol, gan eu galluogi i adeiladu pennod nesaf y gêm: Tides of Terror, ehangiad egniol sy'n cyflwyno agweddau newydd ar chwarae y gêm, gan gynnwys map ffres, cenhadaeth newydd, gelynion newydd a nodweddion fel sgwrs llais, modd trydydd person, traws-chwarae a gemau arferol.

Mae Cyllid Cynhyrchu yn gynllun Cymru Greadigol sydd wedi'i gynllunio i gefnogi twf Cymru fel cyrchfan ar gyfer cynnwys o'r safon uchaf. Mae'n darparu cymorth ariannol i gwmnïau ffilm, teledu, gemau ac animeiddio yng Nghymru sy'n datblygu cynyrchiadau o ansawdd uchel ac eiddo deallusol gwreiddiol ar gyfer cynulleidfaoedd rhyngwladol.

Mae'r gronfa yn blaenoriaethu prosiectau sy'n creu cyflogaeth hirdymor â sgiliau, yn hyrwyddo cynaliadwyedd a lles yn y sector cynhyrchu, ac yn arddangos diwylliant, iaith a daearyddiaeth Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol Sker Ritual yn mynd i'r Lefel Nesaf: 'Tides of Terror' yn Ehangu Bydysawd Gemau Wedi eu Gwneud yng Nghymru | LLYW.CYMRU ac Cyllid Cynhyrchu Cymru Greadigol.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.