Newyddion

Sicrhau Rhagor o Swyddi

Jobs

Mae Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, wedi cadarnhau bod sicrhau rhagor o swyddi’n parhau i fod yn flaenoriaeth ganolog i Lywodraeth bresennol Cymru.

Yn ystod tymor y Senedd hwn, mae ein gweithgareddau a'n buddsoddiadau wedi creu neu ddiogelu bron i 46,000 o swyddi. 

Drwy Fusnes Cymru, Banc Datblygu Cymru, Cymru Greadigol, Cyswllt Ffermio, Croeso Cymru, a chymorth ehangach gan gynnwys ein rhaglen  allforio helaeth, mae ein gwaith arloesi wedi helpu i sicrhau swyddi, cefnogi economïau gwledig ac adeiladu gweithlu sy'n barod i wynebu'r dyfodol. 

Rydyn ni ar ein ffordd i ddarparu 100,000 o gyfleoedd prentisiaeth ar gyfer pobl o bob oedran yn ystod tymor y Senedd hwn – gan agor llwybrau newydd i waith o ansawdd uchel. Drwy'r Warant i Bobl Ifanc, mae mwy na 60,000 o bobl ifanc eisoes wedi cael mynediad at addysg, hyfforddiant, cyflogaeth neu gymorth personol i ddechrau busnes.

Rydyn ni hefyd yn buddsoddi yn y diwydiannau a fydd yn sicrhau ffyniant Cymru yn y dyfodol – gan gynnwys cynhyrchu hydrogen, dal carbon, gweithgynhyrchu uwch a thechnolegau gwyrdd.

Yr wythnos nesaf, bydd Uwchgynhadledd Buddsoddi Rhyngwladol y Prif Weinidog yn dod â buddsoddwyr byd-eang a busnesau Cymru at ei gilydd i feithrin partneriaethau newydd a denu rhagor o fuddsoddi yng Nghymru.

Mae ymrwymiad y Llywodraeth hon yn glir: byddwn yn parhau i weithio gyda chyflogwyr, undebau llafur, llywodraethau lleol a chymunedau i ddarparu rhagor o gyfleoedd swyddi, swyddi mwy medrus ac economi decach a mwy gwydn yng Nghymru.

Darllenwch y datganiad llawn drwy fynd i’r ddolen ganlynol: Datganiad Ysgrifenedig: Sicrhau Rhagor o Swyddi (25 Tachwedd 2025) | LLYW.CYMRU


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.