
Mae SWITCH yn cynnal hyfforddiant sgiliau sero net hanfodol ar gyfer gweithlu Dinas-Ranbarth Bae Abertawe, a ariennir gan raglen Sgiliau a Doniau Bargen Ddinesig Bae Abertawe.
Mae symud at economi sero net yn creu galw dybryd am alluoedd newydd ar draws y rhanbarth. Mae'r microgymwysterau hyn ar lefel Prifysgol sydd am ddim, yn cynnig ffordd ymarferol i unigolion a sefydliadau fodloni'r galw hwn, gan ganolbwyntio ar bynciau sy'n uniongyrchol berthnasol i'r economi leol, o dechnolegau ynni adnewyddadwy i drafnidiaeth gynaliadwy.
Mae'r cyrsiau sero net ar-lein yn hyblyg iawn, gan gynnig dysgu ar eich cyflymder eich hun sy'n cyd-fynd â’ch llwyth gwaith presennol. Gydag ymrwymiad o ychydig oriau'r wythnos dros 12 wythnos, mae'r hyfforddiant yn hygyrch ac yn gyraeddadwy. Caiff cyrsiau eu cyflwyno drwy blatfform dysgu Prifysgol Abertawe, Canvas. Er bod unigolion yn rheoli cyflymder y dysgu, mae darlithwyr Prifysgol Abertawe yn barod i gynnig arweiniad a chymorth.
Mae'r rhaglen sgiliau hon yn galluogi unigolion sy'n byw neu'n gweithio yn ne-orllewin Cymru i feithrin gwybodaeth werthfawr i gefnogi amcanion cynaliadwyedd eu sefydliad ac ehangu eu harbenigedd am dwf gyrfa. I sefydliadau, dyma ffordd effeithiol a rhad o ddatblygu arbenigedd sero net mewnol a chyflymu symudiad y rhanbarth i economi sero net.
Mae manylion llawn y cyrsiau a sut i gofrestru ar wefan Sero Net Switch.