Sign On Cymru 

Sylwer, oherwydd problemau technegol, nid yw defnyddwyr yn derbyn yr e-bost sy’n cynnwys eu cod dilysu wrth geisio cael mynediad i wefannau sydd angen mewngofnodi.

Newyddion

Sgamiau Dydd Gwener y Gwario Gwirion

Online shopping scam

Pan fyddwch chi'n gweld bargen Dydd Gwener y Gwario Gwirion gwych, mae'n demtasiwn clicio prynu nawr, cyn iddo werthu allan, a meddwl yn nes ymlaen.

Mae sgamwyr yn gwybod hyn a byddant yn chwilio am ddioddefwyr newydd yn ystod gwerthiannau Dydd Gwener y Gwario Gwirion. Cynhelir Dydd Gwener y Gwario Gwirion ar 27 Tachwedd.

Er bod llawer o ostyngiadau dilys ar gael yn ystod Dydd Gwener y Gwario Gwirion gwych, mae twyllwyr yn defnyddio'r gwerthiannau fel cyfle i dwyllo pobl sy'n rhuthro i fachu bargen.

Dyma rai o'r sgamiau mwyaf cyffredin i edrych allan amdanynt:

  • gwefannau siopa ffug
  • negeseuon e-bost
  • negeseuon testun
  • hysbysebion cyfryngau Cymdeithasol
  • cyfrifon manwerthwr ffug
  • ceisiadau talu neu ddilysu cyfrif ffug
  • negeseuon dosbarthu ffug

Mae rhai arwyddion rhybudd i edrych allan amdanynt:

  • URL anghyfarwydd neu amheus
  • Gwybodaeth am fanwerthwr ar goll neu anghyflawn
  • Prisiau sy'n ymddangos yn anarferol o isel
  • Cynnwys gwefan o ansawdd gwael neu wedi’i gopïo
  • Ceisiadau talu anarferol
  • Pwysau i dalu’n gyflym

Fel arfer mae'n ddiogel siopa ar-lein yn ystod gwerthiannau Dydd Gwener y Gwario Gwirion. Bydd llawer o fanwerthwyr dilys yn cynnig codau disgownt ac ostyngiadau drwy gydol mis Tachwedd. 

Fodd bynnag, bydd sgamwyr yn defnyddio hyn fel cyfle i geisio gwneud arian. Gwiriwch bob amser eich bod ar y wefan gywir ac osgoi clicio dolenni mewn negeseuon neu ar hysbysebion os gallwch.

Darllenwch y post blog ar wefan HelpwrArian: Sgamiau Dydd Gwener y Gwario Gwirion: sut i siopa’n ddiogel | HelpwrArian

Gall ymosodiadau amharu ar weithrediadau, peryglu data sensitif, a niweidio enw da. Darllenwch dudalen Cyngor a Chymorth Seiberddiogelwch Busnes Cymru i ddarganfod sut I amddiffyn eich busnes rhag ymosodiad seibr. 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.